Cytundeb Molotov–Ribbentrop
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | non-aggression pact, secret treaty ![]() |
Dyddiad | 23 Awst 1939 ![]() |
Iaith | Almaeneg, Rwseg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1939 ![]() |
Lleoliad | Moscfa ![]() |
![]() |
Cytundeb anymosod rhwng yr Undeb Sofietaidd a'r Almaen Natsïaidd oedd Cytundeb Molotov–Ribbentrop (enw swyddogol: Cytundeb Anymosod rhwng yr Almaen ac Undeb y Gweriniaethau Sosialaidd Sofietaidd) a arwyddwyd ym Moscfa ar 23 Awst 1939 gan Vyacheslav Molotov, y gweinidog tramor Sofietaidd, a Joachim von Ribbentrop, gweinidog tramor yr Almaen.
Nododd y cytundeb meysydd dylanwad y ddwy wlad, a chadarnhawyd hyn gan welliant ar 28 Medi 1939 yn sgil goresgyniad Gwlad Pwyl gan yr Almaen yn y gorllewin a'r Undeb Sofietaidd yn y dwyrain. Gwireddwyd y cytundeb ar 1 Medi 1939 pan ymosododd yr Almaen ar Wlad Pwyl a meddiannu hefyd Dinas Rydd Danzig.
Daeth y cytundeb i ben pan ymosododd lluoedd yr Almaen ar y Sofietiaid ar 22 Mehefin 1941 yn ystod Ymgyrch Barbarossa.
Ymysg un o'r effeithiau y Cytundeb oedd tynnu tirioegaeth oddi ar Rwmania Fawr.