Ymerodraeth yr Otomaniaid

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ymerodraeth Otomanaidd)
Jump to navigation Jump to search
Osmanlı İmparatorluğu
Arwyddair yr Ymerodraeth:
Tiriogaeth ehangaf yr Ymerodraeth Ottoman
Iaith swyddogolTwrceg Otomanaidd
PrifddinasIstanbul (Caergystennin)
YmerodronSwltaniaid y
teulu Osmanli
Poblogaethtua 110 miliwn (Suleiman I)
Sefydlu1281
Diddymu29 Hydref 1923
ArianAkçe
Baner Ymerodraeth yr OtomaniaidBaner Twrci
Rhan o Hanes Twrci

Gwladwriaeth Dwrcaidd yn y Dwyrain Canol yn cynnwys Anatolia (neu Asia Leiaf), a rhannau o dde-orllewin Asia, Gogledd Affrica a de-ddwyrain Ewrop oedd Ymerodraeth yr Otomaniaid. Fe'i sefydlwyd gan y Tyrciaid Oghuz, llwyth Tyrcaidd o orllewin Anatolia, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac fe'i diddymwyd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif yn sgîl y Rhyfel Byd Cyntaf ac esgyniad Kemal Atatürk i rym yn Nhwrci. Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg roedd hi'n un o'r ymerodraethau mwyaf nerthol yn y byd ac roedd gwledydd Ewrop yn wyliadwrus ohoni oherwydd ei bod yn dal i ehangu ei thiriogaethau ar orynys y Balcanau.

Sefydlwyd yr ymerodraeth gan Osman I (Uthmān, yn Arabeg; sail yr enw Ottoman). O'r flwyddyn 1453 ymlaen Caergystennin, a ddaeth i'w galw'n İstanbul) ar ôl hynny, oedd prifddinas yr ymerodraeth.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd yr ymerodraeth gan Osman I ym 1281. Cipiodd y Swltan Mehmed II Gaergystennin (Istanbul heddiw) ym 1453 a datblygodd ei deyrnas i fod yn ymerodraeth enfawr. Roedd ei ffiniau ar ei ehangaf yn ystod tyernasiad Suleiman y Godidog yn yr 16g, pan yr oedd yn cynnwys yr holl dir rhwng Gwlff Persia yn y dwyrain a Hwngari yn y gorllewin, ac o'r Aifft yn y de i'r Cawcasws yn y gogledd. Ym 1683 gorchfygwyd yr ymerodraeth ym Mrwydr Fienna ac yn sgîl hynny dirywiodd yn araf cyn cael ei gorchfygu yn derfynol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymranwyd yr Ymerodraeth gan Bwerau'r Cynghreiriaid (Prydain, Ffrainc, UDA, Yr Eidal, Gwlad Groeg ac eraill) yn gyntaf gan Gytundeb Sèvres yn 1920 ac yna, wedi Rhyfel Annibyniaeth Twrci o dan arweiniad Kemal Atatürk a ad-enillodd beth o diriogaeth yr hen Ymerodraeth yn Anatolia gan Gytundeb Lausanne yn 1923.

Strwythr yr ymerodraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Pen y hierarchaeth oedd y swltan. O dan y swltan yr oedd fisierau, swyddogwyr llys eraill ac arweinwyr milwrol. Rhannwyd a gweindyddwyd yr Ymerodraeth drwy daleithiau neu Vilayet a allai, fel unrhyw drefn o reoli, amrywio mewn maint, nifer a thiriogaeth dros amser.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Er iddi fod yn wlad grefyddol iawn yn y dechrau gan fod y rheolwyr yn Gazi (Rhyfelwyr Sanctaidd) ac yn cymryd rhan mewn Jihad (Rhyfel Sanctaidd) yn erbyn Cristnogaeth, ar ôl chwalu'r Bysantiaid o Anatolia a'u gyrru i Ewrop, roedd yr ymerodraeth yn oddefgar iawn. Yn ystod y cyfnod pan ehangodd ei thiriogaeth i'r gorllewin, cymhathodd y diwyllianau Groeg a Balcanaidd ac roedd arweinwyr Twrci ei hunain yn derbyn rhan o'r diwylliant gorllewinol. Fel hynny, creuasant ddiwylliant Ottoman arbennig.

Ar ôl cipio Caergystennin ym 1453 ni ddinistriwyd yr eglwysi a dim ond nifer fach ohonynt a drowyd yn fosgiau (er enghraifft Hagia Sophia yn Istanbul). Roedd bywyd y llys Ottoman fel bywyd Shahau Persia, ond roedd yna ddylanwad Ewropeaidd (Groegaidd yn bennaf), yn ogystal. Am ganrifoedd bu Iddewon Ewrop yn ffoi i'r Ymerodraeth Ottoman am noddfa.

Strwythr milwrol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd strwythr milwrol yr ymerodraeth yn gymhleth iawn. Roedd y gwŷr meirch ysgafn yn bwysicaf, ac roedd ganddynt ffiffau o'r enw timar. Roeddynt yn defnyddio bwâu, cleddyfau ac yn ymladd â thactegau cyffelyb i rheini Ymerodraeth y Mongoliaid; hwy hefyd oedd y lluoedd cyntaf i ddefnyddio musgedi. Roedd llu y Janisariaid yn enwog fel llu arbennig y swltan.

Fodd bynnag, o'r 19g ymlaen roedd cryfder y lluoedd Ottoman yn lleihau am nad oeddynt wedi cael eu diwygio a hefyd - yn bennaf, efallai - oherwydd llygredd y Janissary, a dileuwyd mewn canlyniad ym 1826.

Taleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan oedd tiriogaeth yr ymerodraeth ar ei ehangaf, roedd hi'n cynnwys 29 o daleithiau, tair talaith deyrnngedol a thalaith ddeiliad Transylvania, teyrnas yr oedd ei llywodraethwyr wedi tyngu llw o deyrngarwch i'r swltan. Galwyd y taleithiau yn Vilayet.

Swltaniaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Swltan Suleiman I (Amgueddfa Topkapi Seraia, Istanbul)

Y swltan oedd unig lywodraethwr yr ymerodraeth ac ef ei hun oedd y llywodraeth swyddogol. Enw teuluol y swltans oedd Osmanli. Ond yn y dechrau, nid swltans ond beys oeddynt.