Comiwnyddiaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Comiwnyddion)
Ideolegau Gwleidyddol
Anarchiaeth
Ceidwadaeth
Cenedlaetholdeb
Comiwnyddiaeth
Cymunedoliaeth
Democratiaeth Gristnogol
Democratiaeth gymdeithasol
Ffasgiaeth
Ffeministiaeth
Gwleidyddiaeth werdd
Islamiaeth
Natsïaeth
Rhyddewyllysiaeth
Rhyddfrydiaeth
Sosialaeth

Mae Comiwnyddiaeth (o'r gair Lladin communis - "cyffredin") yn gangen chwyldroadol o'r mudiad Sosialaidd. Mae'n fudiad ac yn drefn gymdeithasol; un sy'n hyrwyddo cymdeithas ddiddosbarth wedi ei sylfaenu ar gydberchnogaeth yn unol â threfn ddi-arian. Yn ddelfrydol mae comiwnyddiaeth yn wladwriaeth sydd heb berchnogaeth breifat, heb ddosbarthau cymdeithasol an yn rhywle lle mae modd cynhyrchu yn gymunedol a bod eiddo'n gyffredin i bawb.

Dylanwadodd dehongliad comiwnyddiaeth o fath Marcsaidd-Leninaidd yn fawr ar hanes yr 20g, gyda gwrthdaro rhwng "y byd sosialaidd", wedi'i reoli gan bleidiau Comiwnyddol, a'r "byd Gorllewinol" gyda'i farchnad rydd. Canlyniad hyn oedd y Rhyfel Oer rhwng y Bloc Dwyreiniol a'r "Byd Rhydd" neu'r "Gwledydd Cyfalafol".

Marcsiaeth[golygu | golygu cod]

Marcsiaeth, a enwir ar ôl Karl Marx, oedd mudiad sylfaenol Comiwnyddiaeth ac fe ddeilliodd nifer o ganghennau ohoni; yn nodweddiadol ohonynt, Leniniaeth (neu Marcsiaeth-Leniniaeth fel y'i gelwir gan amlaf) a enwyd ar ôl y chwyldroadwr Bolsiefic o Rwsiad, Vladimir Lenin. Fel rheol gelwir plaid wleidyddol sy'n arddel comiwnyddiaeth yn 'Blaid Gomiwnyddol', ond nid yn ddieithriad. Mae'r mwyafrif o'r pleidiau hynny yn Farcsaidd-Leninaidd, ond ceir yn ogystal gomiwnyddion sy'n gwrthod dysgeidiaeth Lenin ac sy'n dilyn athroniaeth chwyldroadwyr eraill fel y Rwsiad Leon Trotsky (Trotscïad), a chomiwnyddion sy'n cydnabod Lenin ond sy'n arddel athroniaeth wedi'i haddasu i gwrdd ag amgylchiadau neilltuol, fel y Maoïaid (ar ôl y Tsieinead Mao Zedong) a'r Staliniaid (ar ôl y Georgiad Joseph Stalin).

Mae Marcswyr yn credu bod rhaid mynd drwy gyfnod o lywodraeth sosialaidd cyn y bydd comiwnyddiaeth ei hun yn bosib. Heddiw, dim ond Gweriniaeth Pobl Tsieina, Ciwba, Fietnam, Moldofa a Gogledd Corea sydd dan reolaeth gomiwnyddol o ryw fath (er na fyddai pob Marcsydd yn derbyn fod pob un o'r rhain yn wledydd comiwnyddol go iawn bellach). Cyn 1991, roedd llawer mwy o wledydd sosialaidd, fel yr Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw, er enghraifft.

Anarchiaeth Gymdeithasol[golygu | golygu cod]

Arferai anarchwyr bod yn gytûn â Marcswyr[1] ynglŷn a'r amcanion o gyrraedd cymdeithas ddiddosbarth a gwladwriaeth heb eiddo preifat, ond maent yn anghygweld bellach ar y ffyrdd o'u cyrraedd. Credant ei bod yn amhosib ymgorffori'r gweithwyr mewn gwladwriaeth, sef cyfnod Sosialaeth mewn damcaniaeth Marcsiaeth, am eu bod yn gweld y wladwriaeth fel amddiffynnwr eiddo preifat ac yn endid hierarchaidd. I anarchydd, byddai rhaid chwalu'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth; i'r Marcsydd rhaid cymryd rheolaeth o'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth. Mae anarchwyr hefyd o ganlyniad yn elyniaethus i bleidiau gwleidyddol, yn enwedig pleidiau canolig, hierarchaidd. Credant yn gadarn fod rhaid i'r gweithwyr, a'r gweithwyr oll, gweithredu'r chwyldro dros gomiwnyddiaeth, ac nid plaid sydd yn honni ei fod yn eu cynrychioli.

Y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Plaid Gomiwnyddol Prydain yn 1920.[2] Roedd syniadaeth Marcsaidd wedi bod yn cael eu trafod ledled y wlad ers y 1890au, gan chwarae rhan amlwg ym mrwydrau gwleidyddol a diwydiannol y 1920au a 30au. Etholwyd Arthur Horner yn Llywydd Ffederasiwn Glöwyr De Cymru yn 1936 a chynyddodd nifer yr aelodaeth yn enwedig yn ne Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. In Defence of Marxism, Marxist and Anarchist Theory
  2. Davies, John (2008), Gwyddoniadur Cymru, Caerdydd, Cymru: Gwasg Prifysgol Cymru

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]