Neidio i'r cynnwys

Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana

Oddi ar Wicipedia
Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana
Mathmaes awyr rhyngwladol, maes awyr, erodrom traffig masnachol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTirana, Y Fam Teresa Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1957 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserEwrop/Tirane Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Albania Albania
Uwch y môr38 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.41°N 19.72°E Edit this on Wikidata
Nifer y teithwyr7,257,634 Edit this on Wikidata
Map
Rinas
Tu fewn terfynnell, 2016

Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana neu (Albaneg: Aeroporti Ndërkombëtar i Tiranës Nënë Tereza, Saesneg: Tirana International Airport Nënë Tereza; côd ryngwladol IATA: TIA, ICAO: LATI), a elwir yn gyffredin yn Faes Awyr Rinas, yw prif awyrfa ryngwladol Albania.

Enwyd yr awyrfa ar ôl Y Fam Teresa yn 2002. Roedd hi'n leian a chenhades Catholig yn yr India. Lleolir y maesawyr ym mhentref Rinas sydd 11 km i'r gogledd orllewin o brifddinas Albania, Tirana.

Mae'r maes awyr yn un o'r rhai prysuraf yn y Balcan gan ddygymod gyda 2.6 teithiwr yn 2017. Dinasoedd eraill Ewrop yw ei phrif gyrchfannau. Mae'n gweithredu fel canolfan ar gyfer y cwmni hedfan domestig, Albawings a fel 'focus city' ar gyfer Adria Airways, Blue Panorama Airlines ac Ernest Airlines.[1]

Hen awyrfa Tirana, golygfa o du fewn awyren am allan, 1978
Awyrfa Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana cyn y dyluniad newydd, 2004

Roedd gan Albani wasanaeth hedfan fasnachol ryngwladol cyn yr Ail Ryfel Byd pan oedd awyr domestig Iwgoslafia, Aeroput yn gweithredu hediadau cyson rhwng Belgrâd a Tirana a glaniad yn Dubrovnik. Adeiladwyd y maes awyr ar y safle yn Rinas rhwng 1955 a 1957. Gyda cwymp Comiwnyddiaeth yn 1991 a'r rhyddhau'r farchnad a ddaeth yn sgîl hynny, gwelwyd cynnydd sydyn yn nifer y cwmnïau hedfan oedd yn defnyddio'r awyrfa.

Cyfredol

[golygu | golygu cod]

Mae offer y maes awyr wedi'i foderneiddio'n sylweddol, yn dilyn buddsoddiad gan gonsortiwm Tirana International Airport SHPK, a gymerodd reolaeth dros y maes awyr ar 23 Ebrill 2005, ar ôl ennill consesiwn am gyfnod o ugain mlynedd. Mae'r contract consesiwn yn golygu adeiladu terfynell deithwyr hollol newydd a gwahanol welliannau i'r seilwaith, gan gynnwys adeiladu llwybr mynediad newydd. Bydd y gwaith newydd yn gwella'r gwasanaethau a gynigir i deithwyr yn sylweddol. Fodd bynnag, nid oes gan y maes awyr bontydd glanio sy'n caniatáu i deithwyr drothwyo (board) ac dad-drothwyo awyren heb orfod gadael y terfynell. Gyda'r gwelliannau hyn, bydd gan y maes awyr y gallu i ddelio gyda traffig teithwyr Albania am y 10-15 mlynedd nesaf.

Cyrraedd y Maes Awyr

[golygu | golygu cod]

Car Cysylltir y maes awyr gan draffordd SH60 (10 km i ffwrdd) i ffordd fynedfa SH2 Durres -Tirana. Ceir gwasnaethau tacsi a llogi car yn yr awyrfa. Mae siwrne o Tirana i'r awyrfa yn cymryd oddeutu 20-25 munud (yn ddibynnol ar y traffig).

Bws Mae bws awyrfa, Rinas Express, wedi ei lleoli y tu allan i derfynnell 'cyrraedd' ac yn gadael ar yr awr bob awr (8.00am - 7.00pm) am ganol dinas Tirana. Hyd y daith yw oddeutu 25 - 30 munud. Mae'r Rinas Express yn gwasanaethau 12 awr (6.00am i 6.00pm) fel gwasanaeth rhwng y maes awyr a'r Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol dinas Tirana. Cost tocyn un ffordd yw 250 Lek. O ddinas Durres, pris tocyn sengl yw 480 Albanian Lek

Traffig

[golygu | golygu cod]
Teithwyr, cwmnïau awyrenau ac ystadegau cargo yn Awyrfa Nënë Tereza Airport
Blwyddyn Teithwyr Newid Cwmmni Awyren Newid Cargo
(metric tons)
Newid
2005785,000increase20.77%15,400N.A.N.A.N.A.
2006906,103increase15.43%15,856increase 2.96%2,435N.A.
20071,105,770increase22.04%18,258increase15.15%3,832increase57.37%
20081,267,041increase14.58%19,194increase 5.13%2,497Decrease34.84%
20091,394,688increase10.07%20,064increase 4.53%2,265Decrease 9.29%
20101,536,822increase10.19%20,768increase 3.51%2,355increase 3.97%
20111,817,073increase18.24%22,988increase10.69%2,656increase12.78%
20121,665,331Decrease 8.35%20,528Decrease10.70%1,875Decrease29.41%
20131,757,342increase 5.53%19,942Decrease 2.85%2,164increase15.41%
20141,810,305increase 3.02%17,928Decrease 3.02%2,324increase13.53%
20151,997,044increase 10.3%20,876increase 16.4%2,229Decrease4.1%[2]
20162,195,100increase 11.3%22,352increase 7.1%2,200Decrease1%[3]
20172,630,338increase 19.8%24,336increase 9%2,266increase3%[4]
2018 (01.01 - 28.02)368,706increase 11.0%3606increase 6.9%349increase7.7%[5]

Llwybrau Prysuraf

[golygu | golygu cod]
Llwybrau Prysuraf Awyrfa Tirana
Rank Cyrchfan Maes/Meysydd awyr Nifer y Teithwyr 2017[6] Prif carriers
1 Yr Eidal Milan MXP, BGY 390.735 Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines
2 Yr Eidal Rhufain FCO 323.322 Alitalia, Blue Panorama Airlines
3 Twrci Istanbwl IST, SAW 235.286 Pegasus Airlines, Turkish Airlines
4 Awstria Vienna VIE 174.363 Austrian Airlines
5 Yr Eidal Pisa PSA 123.005 Albawings, Ernest Airlines
6 Yr Eidal Verona VRN 118.646 Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines, Volotea
7 Yr Eidal Bologna BLQ 116.158 Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines
8 Y Deyrnas Unedig London LGW, STN 96.865 Albawings, British Airways, Small Planet Airlines
9 Yr Almaen Frankfurt FRA 90.286 Adria Airways, Lufthansa
10 Gwlad Groeg Athen ATH 84.860 Aegean Airlines

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Local-based carrier Albawings continues to grow successfully in the market - Tirana International Airport". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-12. Cyrchwyd 21 Chwefror 2017.
  2. name="tirana-airport.com"
  3. http://www.tirana-airport.com/l/7/53/company-information/facts-figures/[dolen farw]
  4. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-08-07. Cyrchwyd 2018-04-16.
  5. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-04-06. Cyrchwyd 2018-04-16.
  6. "Market Statistics - Tirana International Airport". 23 Chwefror 2018.[dolen farw]