Carn
Jump to navigation
Jump to search
- Am yr erthygl am y Carn a greir o gerrig, gweler Carnedd
Rhan o flaen traed mamal carnol yw carn, sydd wedi ei gryfhau gan haenen gorniog o geratin. Mae carn yr anifail yn cynnyws gwadn caled neu gyda ansawdd rwber, a haenen caled sydd wedi ei ffurfio gan ewin trwchus oamgylch blaen y troed. Mae gwadn ac ymyl y carn yn dal pwysau'r anifail fel arfer. Mae carnau'n tyfu'n ddi-baid, a caent eu gwisgo i lawr trwy ddefnydd, neu mewn achos rhai anifeiliaid dof, ei dorri i lawr.