System y synhwyrau
Enghraifft o'r canlynol | strwythur anatomegol, dosbarth o endid anatomegol ![]() |
---|---|
Math | System nerfol, endid anatomegol arbennig ![]() |
Rhan o | System nerfol ![]() |
Yn cynnwys | organ synhwyro ![]() |
![]() |

Mae'r system synhwyrau'n rhan o'r system nerfol mewn anifeiliaid; byddwn yn canolbwyntio ar synhwyrau'r corff dynol yn yr erthygl hon. Ei waith ydyw hel a phrosesu gwybodaeth drwy gyfrwng y "pum llawenydd" chwedl y bardd, neu'r pum synnwyr: gweld (y llygaid), clywed (y clustiau), teimlo (y croen), blasu (y tafod) ac arogleuo (y trwyn). Mewn gwyddoniaeth, rydym yn galw pob un o'r rhain yn dderbynnydd.
"Maes y derbynnydd" (receptive field) yw'r rhan honno o'r byd mae'r organ derbyn (receptor organ) a'r celloedd derbyn yn medru ymateb iddynt. Er enghraifft, mae'r rhan honno o'r byd mae'r llygad yn medru ei weld yn cael ei alw'n "faes y derbynnydd" neu "dderbynfaes", sef golau'n taro rodenni a chonau o fewn y llygad.[1] Gallwn ddiffinio ac enwi derbynfeysydd y system gweld, clywed a'r system teimlo yn unig hyd yma (2009).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Kolb & Whishaw: Fundamentals of Human Neuropsychology (2003)