Neidio i'r cynnwys

Amblyopia

Oddi ar Wicipedia
Amblyopia
Enghraifft o:math o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathnam ar y golwg Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Thesawrws NCIC118764 edit this on wikidata
Freebase/M/02s64_ edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF40194 edit this on wikidata
MeSHD000550 edit this on wikidata
UMLS CUIC0002418 edit this on wikidata
QuoraAmblyopia edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae pylni'r golwg neu amblyopia (Saesneg), a elwir hefyd yn llygad diog, yn anhwylder golwg, ac fe achosir gan ddiffyg cydweithrediad rhwng y llygad a'r ymennydd. Arweinir at ostyngiad mewn golwg, a hynny mewn llygad sydd fel arall yn ymddangos yn arferol. Dyma'r achos mwyaf cyffredin o golled golwg mewn un llygad ymhlith plant ac oedolion iau.[1]

Gall amblyopia gael ei achosi gan unrhyw gyflwr sy'n ymyrryd â'r broses ffocysu yn ystod plentyndod cynnar.[2] Mae'n bosib iddo hanu o ddiffyg cyfluniad yn y llygaid; siâp llygad afreolaidd, lle bo' ffocysu'n anoddach; gwahaniaethau golwg, hynny yw bod un llygad â golwg byr a'r naill â golwg hir; neu gymylu yn lens y llygad. Wedi i'r achos sylfaenol gael ei ddatrys, nid yw golwg y dioddefwr yn adfer ar unwaith gan fod mecanwaith y cyflwr yn cynnwys yr ymennydd yn ogystal.[3] Gall fod yn anodd canfod amblyopia, felly argymhellir cynnal profion llygaid ar gyfer pob plentyn o bedair i bump oed.[4]

Wrth ganfod y cyflwr yn gynnar mae modd ei drin yn fwy effeithiol. Yn achos rhai plant nid oes angen triniaeth helaethach na gwisgo sbectol llygaid.[5] Os nad yw'r dull hynny'n ddigonol, gweithredir triniaethau sy'n gorfodi'r plentyn i ddefnyddio'r llygad gwannach. Gwneir hynny naill ai drwy wisgo clwt llygad neu rhoddir atropin yn y llygad cryfach. Heb driniaeth, mae amblyopia fel arfer yn parhau i gyfnod oedolyn. Ni cheir ymchwil na thystiolaeth safonol ynghylch triniaethau ar gyfer oedolion.

Mae amblyopia'n dechrau erbyn bod rhywun yn bump oed. Effeithir y cyflwr oddeutu 1-5% o'r boblogaeth hŷn.[6] Er bod triniaeth yn gwella golwg, nid yw fel arfer yn ei adfer yn llwyr yn y llygad ag effeithir. Disgrifiwyd amblyopia am y tro cyntaf yn y 1600au.[7] Gall y cyflwr wneud unigolyn yn anghymwys i fod yn beilot neu swyddog yn yr heddlu. Mae'r gair amblyopia yn dod o ἀμβλύς (amblys yn y Roeg) sy'n golygu "di-awch" a ὤψ ōps sy'n golygu "golwg".[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Facts About Amblyopia". National Eye Institute. Medi 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2016.
  2. Schwartz, editor, M. William (2002). The 5-minute pediatric consult (arg. 3rd). Philadelphia: Lippincott Williams & Wilkins. t. 110. ISBN 9780781735391. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2017.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  3. Levi, D. (2013). "Linking assumptions in amblyopia.". Visual neuroscience 30 (5–6): 277–287. doi:10.1017/S0952523813000023. PMID 23879956.
  4. Jefferis, JM; Connor, AJ; Clarke, MP (12 November 2015). "Amblyopia.". BMJ (Clinical research ed.) 351: h5811. doi:10.1136/bmj.h5811. PMID 26563241.
  5. Maconachie, GD; Gottlob, I (December 2015). "The challenges of amblyopia treatment.". Biomedical Journal 38 (6): 510–6. doi:10.1016/j.bj.2015.06.001. PMID 27013450.
  6. Webber, AL; Wood, Joanne (2005). "Amblyopia: Prevalence, Natural History, Functional Effects and Treatment". Clinical and Experimental Optometry 88 (6): 365–375. doi:10.1111/j.1444-0938.2005.tb05102.x. PMID 16329744. Archifwyd o y gwreiddiol ar 15 January 2012. https://web.archive.org/web/20120115021843/http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/j.1444-0938.2005.tb05102.x/pdf.
  7. "Chapter 2 - Visual development in childhood". Visual Impairments and Developmental Disorders: From diagnosis to rehabilitation Mariani Foundation Paediatric Neurology. John Libbey Eurotext. 2016. ISBN 9782742014828. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2017. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2016.
  8. "Online Etymology Dictionary". www.etymonline.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2017. Cyrchwyd 5 Mai 2017.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!