Tauros

Oddi ar Wicipedia
Tauros

Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a greuwyd gan Satoshi Tajiri yw Tauros (Japaneg: ケンタロス - Kentauros). Mae Tauros yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddadwy o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga a'r gemau fideo.

Cymeriad[golygu | golygu cod]

Daw'r enw Tauros o'r gair Lladin taurus (sef tarw). Daw'r enw Japaneg o'r Groeg Κένταυρος - Kentauros (sef dynfarch). Cafodd Tauros ei ddylunio gan Ken Sugimori (ffrind agos i Satoshi Tajiri, crëwr Pokémon).

Ffisioleg[golygu | golygu cod]

Mae Tauros (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon normal sydd yn edrych fel teirw brown gyda myngau trwchus, cyrn mawr, cyrff cyhyrog a thair cynffon hir, tenau. Mae hefyd ganddynt tri styden arian er eu talcennau. Mae pob Tauros yn wrywol a mae llawer o chwaraewyr yn ei weld fel cymar i Miltank. Mae gan Tauros y pŵer i greu daeargrynfeydd gan stabaldeinio gyda'u carnau.

Ymddygiad[golygu | golygu cod]

Mae Tauros yn byw, ac yn teithio, o fewn diadellau. Mae Tauros yn defnyddio eu cynffonau i chwipio eu hunain mewn i cynddeiriogwydd, oherwydd hyn mae rhuthradau yn cyffredin iawn. Pan nad oes wrthwynebwyr i ymladd, bydd Tauros yn taclo coed er mwyn gostegu.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Mae Tauros yn anghyffredin iawn yn yr anial. Ond, maent yn cyffredin iawn o fewn saffari a go brin yng nghaeau glaswelltog.

Deiet[golygu | golygu cod]

Tauros ar fyn rhuthro yn yr anime

Fel teirw go iawn, mae Tauros yn llysysyddion sydd yn bwyta glaswellt, ffrwythau a llysiau.

Ieithoedd Gwahanol[golygu | golygu cod]