Sioe amaethyddol
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio

Cystadleuaeth dangos defaid yn Sioe Frenhinol Cymru Machynlleth 1954, pan oedd yn dal i fod yn sioe deithiol
Digwyddiad cyhoeddus yn cynnwys anifeiliaid, adloniant, chwaraeon a chyfarpar yn ymwneud ag amaeth a magu anifeiliaid yw sioe amaethyddol. Yn aml bydd cystadlaethau yn seiliedig ar bobi cacennau, tyfu llysiau, ac arddangos anifeiliaid.
Mae llu o sioeau amaethyddol yng Nghymru, ac maent yn rhan hollbwysig o galendr cefn gwlad. Y sioe amaethyddol fwyaf yng Nghymru – a'r fwyaf yn Ewrop – yw Sioe Frenhinol Cymru a gynhelir yn Llanelwedd bob blwyddyn.