Craig igneaidd
Gwedd
| Enghraifft o: | math o garreg |
|---|---|
| Math | craig |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03_2f |
| Quora | Igneous |

Cerrig sy'n fagma (cerrig tawdd, lafa ar wyneb y daear) wedi crisialu yw creigiau igneaidd. Mae magma yn casglu o dan gramen y Ddaear ac fel arfer yn cynnwys nwy a mwynau wedi crisialu. Pan fydd magma yn dod i'r wyneb neu'n llifo i ardal danddaearol oerach, mae'n oeri a chrisialu.
Ceir dau gategori o graig igneaidd:
- Craig igneaidd allwthiol: Mae'n ffurfio ar wyneb y Ddaear (gwthio allan). Daw'r magma i'r wyneb drwy losgfynydd neu holltau (fissures). Mae'n oeri'n gyflym. Mae'r crisialau yn y creigiau hyn yn fân iawn, a gall y graig ymddangos yn llyfn fel gwydr.
- Craig igneaidd ymwthiol: Mae'n ffurfio dan wyneb y Ddaear (gwthio i mewn). Mae'r magma yn llifo i siambrau a holltau tanddaearol ac yn oeri yn araf rhwng creigiau eraill. Dyma'r math o graig sydd wrth graidd mynyddoedd. Pan fydd y creigiau oedd o amgylch y magma yn erydu, gallant adael ardaloedd anferth o graig caled o'r enw batholithau.