Cramen y Ddaear

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhyngdoriad o'r Ddaear, o'r craidd i'r gramen.

Y gramen yw’r enw a roddir i haen fwyaf allanol y blaned, ac mae’n rhan o’i lithosffer. Mae fel arfer wedi'i ffurfio o ddeunydd llai dwys na gweddill y blaned. Basalt a gwenithfaen sy’n ffurfio'r rhan fwyaf o gramen y Ddaear. Mae’r gramen yn oerach ac yn fwy cadarn na’r haenau dyfnach fel y fantell a’r craidd.

Ar blanedau haenog, fel y Ddaear, mae’r lithosffer yn arnofio ar haenau mewnol sy’n llifo. Mae’r gramen yn cael ei rhannu'n sawl plât tectonig gan geryntau darfudiad yn yr asthenosffer is. Er nad yw’r asthenosffer yn hylif, mae’n ymddwyn yn blastig.

Mae’r gramen gyfandirol yn wahanol i’r gramen gefnforol. Mae’r gramen gefnforol wedi’i chyfansoddi yn bennaf o fasalt ac mae ganddi drwch o tua 5–10 km. Mae’r gramen gyfandirol wedi’i gwneud o sawl craig lai dwys, ac mae ganddi drwch o tua 20–70 km.