Mantell (daeareg)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Trawstoriad y Ddaear yn dangos y fantell.

Y fantell yw’r haen o’r Ddaear (neu unrhyw blaned arall) rhwng y gramen a’r graidd. Mae wedi ei gwneud o beridotit, mae’n solid, ond yn ymddwyn yn ystwyth.

Caiff ei rhannu yn uwch-fantell ac yn is-fantell. Y ffin yw'r lleoliad lle mae newid sydyn yng nghyflymder tonnau seismig. Mae hyn yn digwydd ar ddyfnder o tua 660km. Credir fod y naid yma yng nghyflymder tonnau seismig yn gysylltiedig gyda newid yn y mineralau yn y fantell. Oherwydd y pwysau (oherwydd yr holl gerrig uwchben) mae'r atomau yn y diwedd yn methu cadw ei patrwm mewn mineral ac yn newid i fineral newydd. Credir fod y naid tau 660km yn gysylltiedig gyda'r mineral Ringwoodite yn newid i Bridgmandite ('roedd yn cael ei alw yn Perovskite) a ferropericlase oherwydd y broses yma [1].

Cyfansoddiad mantell y Ddaear a'i bwysau (mewn canran)[2] [3]
Elfen  %   Cyfansoddyn  %
O 44.8    
Mg 22.8 SiO2 46
Si 21.5 MgO 37.8
Fe 5.8 FeO 7.5
Ca 2.3 Al2O3 4.2
Al 2.2 CaO 3.2
Na 0.3 Na2O 0.4
K 0.03 K2O 0.04
Swm 99.7 Swm 99.1
Geology stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddaeareg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. Ito, E. and Takahashi E., Postspinel transformations in the system Mg2SiO4-Fe2SiO4 and some geophysical implications, Journal of Geophysical Research (Solid Earth) 94 (B8), 10637-10646. doi:10.1029/jb094ib08p10637 Wedi ei hol 22 Orffenaf 2016
  2. mantle@Everything2.com. Retrieved 2007-12-26.
  3. Jackson, Ian (1998). The Earth's Mantle - Composition, Structure, and Evolution. Gwasg Prifysgol Caergrawnt. pp. 311–378. ISBN 0-521-78566-9.