Ffasiwn Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y dillad, gwisg, a ffasiynau hanesyddol a modern yng Nghymru yw ffasiwn Cymru.

Gwisg draddodiadol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffasiynau Cymreig ar ddiwrnod marchnad, gan R. Griffiths (1851).

Mae'r ddelwedd boblogaidd o wisg draddodiadol i ferched Cymru yn seiliedig ar ddylanwadau'r 19eg ganrif. Mae'r wisg hon yn cynnwys clogyn coch a het uchel ddu o'r enw het Gymreig. Nid oes gwisg genedlaethol debyg i ddynion Cymru. Er gwaethaf ymdrechion i "adfer" cilt Cymreig, yn debyg i giltiau'r gwledydd Celtaidd eraill, nid oes tystiolaeth o giltiau hanesyddol gan y Cymry.[1]

Rhwng 1840 a 1870 roedd y siôl yn gyfwisg ffasiynol iawn yng Nghymru, yn enwedig o batrwm Paisley. Traddodiad Cymreig yw i gario babanod mewn siôl.[1]

Ffasiwn modern[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffrogiau Laura Ashley o'r 1970au.

Heb os nac oni bai, Laura Ashley (1925–1986) o Ferthyr Tudful yw’r dylunydd ffasiwn enwocaf o Gymru. Dyluniodd ddillad o arddull y cefn gwlad yn seiliedig ar ddyluniadau’r 19eg ganrif, gan gynnwys hen bapur wal. Daeth ei gwaith yn boblogaidd iawn yn y 1970au, ac erbyn 1981 roedd yna 5000 o’i siopau o gwmpas y byd. Yn dilyn ei marwolaeth, dioddefodd ei chwmni rhwyfaint a chaeodd pum ffatri yng Nghymru. Yn ddiweddar, mae busnes dodrefn y cwmni wedi ffynnu.

Sefydlodd Jeff Banks (g. 1943) y siop gadwyn Warehouse a’r cwmni archebu drwy’r post Warehouse Utility Clothing Company. Cyflwynodd The Clothes Show, y rhaglen deledu ffasiwn poblogaidd gyntaf ym Mhrydain. Dyluniodd David Emanuel (g. 1952) a'i wraig Elizabeth wisg briodas y Fonesig Diana Spencer ym 1981.

Y dylunydd mwyaf llwyddiannus sy’n gweithio heddiw yw Julien MacDonald (g. 1972) o Ferthyr Tudful. Mae wedi gweithio i nifer o ddylunwyr mawr gan gynnwys Alexander McQueen a Karl Lagerfeld, ac yn ddylunydd gweuwaith i Chanel. Enillodd wobr Dylunydd Glamour y Flwyddyn yng Ngwobrau Ffasiwn Prydain yn 2001, a phenodwyd yn ddylunydd artistig House of Givenchy.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1  Y Wisg Gymreig. Amgueddfa Cymru. Adalwyd ar 27 Hydref 2015.