Laura Ashley
| Laura Ashley | |
|---|---|
| Ganwyd | Laura Mountney 7 Medi 1925 Dowlais |
| Bu farw | 17 Medi 1985 Coventry |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | person busnes, dylunydd ffasiwn, dylunydd tecstiliau, artist tecstiliau, cynllunydd |
| Priod | Bernard Ashley |
| Plant | Emma M. Ashley, David Nicholas Ashley |
| Gwobr/au | CBE |
Dylunydd ffasiwn o Gymru oedd Laura Ashley CBE (7 Medi 1925 – 17 Medi 1985). Daeth ei henw yn adnabyddus ym mhob aelwyd ar gryfder ei gwaith fel dylunydd a chynhyrchydd nifer o ddefnyddiau lliwgar a dodrefn y cartref.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd Laura Mountney yn Station Terrace, Dowlais, Merthyr Tudful. a'i magu ar aelwyd Babyddol lle'r oedd y tad yn gweithio i'r wasanaeth sifil. Mynychodd gapel Cymraeg Hebron yn Dowlais, ac er nad oedd yn rhugl yn y Gymraeg roedd yn ei charu, yn arbennig y diwylliant cerdd. Addysgwyd hi yn Ysgol Marshall, Merthyr Tydfil hyd 1932, ond anfonwyd hi i Ysgol Elmwood, Croydon, Llundain. Dychwelodd i Gymru fel faciwi, ac ar ôl mynychu Ysgol Ysgrifenyddol Aberdâr, gorffenodd ei haddysg yn 16 oed. Gwasanaethodd yn y Gwasanaeth Llynges Brenhinol Merched yn yr Ail Ryfel Byd, ac o 1945 hyd 1952 roedd yn ysgrifenyddes Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched yn Llundain. Cyfarfu â Bernard Ashley, a ddaeth yn Syr Bernard yn ddiweddarach, mewn clwb ieuenctid yn Wallington, a phriododd ef yn 1949.[1]
Tra oedd hi'n gweithio fel ysgrifenyddes ac yn magu ei dau blentyn cyntaf, dyluniodd napcynnau, matiau bwrdd a llieiniau yn rhan amser, ac argraffodd Syr Bernard rhain ar beiriant roedd wedi ei ddylunio ei hun mewn fflat atig yn Pimlico, Llundain.[2]
Buddsoddodd y cwpl £10 mewn pren ar gyfer ffram sgrîn, llifynnau a sawl llathen o liain. Daeth ysbrydoliaeth Laura i dechrau cynhyrchu defnydd wedi ei argraffu o arddangosfa Sefydliad y Merched o grefftau llaw traddodiadol yn Amgueddfa Victoria ac Albert. Pan ddechreuodd Laura chwilio am ddarnau bychain o ddefnydd Fictoraidd ar gyfer cwiltio, canfu nad oedd ar gael. Gwelodd y cyfle i'w gyflenwi, a dechreuodd argraffu sgarffiau-pen mewn steil Fictoraidd yn 1953.