Diana, Tywysoges Cymru
Diana | |
---|---|
Tywysoges Cymru | |
![]() Diana yn 1997 | |
Ganwyd | Diana Frances Spencer 1 Gorffennaf 1961 Sandringham, Norfolk, Lloegr |
Bu farw | 31 Awst 1997 Paris, Ffrainc | (36 oed)
Claddwyd | 6 Medi 1997 Althorp, Swydd Northampton, Lloegr |
Priod | Y Tywysog Charles (Charles III yn hwyrach) (pr. 1981; ysg. 1996) |
Plant | |
Teulu |
|
Tad | John Spencer, 8fed Iarll Spencer |
Mam | Frances Roche |
Roedd Diana Spencer, a adnabyddir wrth ei theitl swyddogol fel Diana, Tywysoges Cymru (anfrodorol; 1 Gorffennaf 1961[1] – 31 Awst 1997), yn aelod o deulu brenhinol y Deyrnas Unedig. Hi oedd gwraig gyntaf y Tywysog Charles (y Brenin Charles III yn ddiweddarach) a mam y tywysogion William a Harry.
Roedd Diana yn ffigwr cyhoeddus ers i'w dyweddiad i'r Tywysog Charles gael ei gyhoeddi. Ers hynny roedd Diana bron yn ddi-baid, yn ganolbwynt ar gyfer archwiliadau'r wasg ym Mhrydain ac o gwmpas y byd, yn ystod ei phriodas ac yn dilyn ei hysgariad. Bu farw mewn damwain car ym Mharis. Daeth Ymchwiliad y Crwner, a oedd yn hir-ddisgwyliedig, i ben ym mis Ebrill 2008, a daeth i'r casgliad y lladdwyd Diana yn anghyfreithlon gan y gyrrwr a'r paparazzi a oedd yn ei herlid.[2]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Roedd Diana yn ferch ieuengaf i Spencer, Is-iarll Althorp, sef 8fed Iarll Spencer yn ddiweddarach, a'i wraig cyntaf, Frances, Is-iarlless Althorp (yr Anrhydeddus Frances Burke Roche gynt, a Frances Shand Kydd yn ddiweddarach). Ganwyd Diana yn Park House, Sandringham, yn Norfolk ar 1 Gorffennaf 1961 am 6.45 y prynhawn. Fe'i bedyddwyd yn eglwys blwyf Sandringham gan y gwir barchedig Percy Herbert (rheithor yr eglwys a chyn-Esgob Norwich a Blackburn); roedd ei rhieni bedydd yn cynnwys John Floyd (cadeirydd Christie's). Hi oedd trydydd plentyn y cwpl, roedd ei brodydd a'i chwiorydd oedd y Fonesig Sarah Spencer (ganwyd 1955), y Fonesig Jane Spencer (ganwyd 1957), yr Anrhydeddus John Spencer (bu farw 12 Ionawr 1960), a'r Anrhydeddus Charles Spencer (ganwyd 1964). Yn dilyn ysgariad chwerw eu rhieni ym 1969 (ynglŷn â helynt y Fonesig Althorp gyda Peter Shand Kydd), cymerodd mam Diana hi a'i brawd ifengaf i fyw mewn fflat yn Knightsbridge, Llundain, ble mynychodd Diana ysgol leol. Y Nadolig hwnnw, fe aeth y plant i gyd i ddathlu gyda'u tad, ond gwrthodof ef i'w gadael i ddychwelyd i Lundain wedyn. Fe erlynodd y Fonesig Althorp er mwyn cael gwarchodaeth o'i phlant, ond fe gynorthwywyd y llys i wobrwyo'r warchodaeth i'r tad gan dystiolaeth mam y Fonesig Althorp yn ei herbyn.
Ym 1976 priododd yr Arglwydd Spencer Raine, Iarlles Dartmouth, unig ferch y nofelydd rhamantus Barbara Cartland, ar ôl iddo achosi ysgariad Iarll a Iarlles Dartmouth. Bu Diana yn teithio ar hyd y wlad yn ystod y cyfnod hwn, gan fyw rhwng cartrefi ei rhieni, gyda'i thad ym mhlasty teulu Spencer yn Swydd Northampton, a gyda'i mam a oedd wedi symud i fyw i Ynys Seil, oddi ar ardfordir gorllewinol yr Alban. Yn wahanol i'w brodyr a'i chwioryddid, nid oedd Diana yn cyd-dynnu gyda'i llysfam.
Addysg
[golygu | golygu cod]Derbyniodd Diana ei haddysg yn Ysgol Silfield, Kings Lynn, Norfolk, ac yna yn Riddlesworth Hall yn Norfolk ac yn Ysgol West Heath i Ferched yn Sevenoaks, Swydd Gaint. Nid oedd yn fyfyrwraig llwyddiannus, wedi iddi sefyll ei haroliadau lefel O a'u methu ddwywaith. Derbyniodd wobr yn West Heath am ei chyfraniad eithriadol i'r gymuned. Pan oedd yn 17 oed ym 1977, gadawodd West Heath ac am gyfnod byr mynychodd Institut Alpin Videmanette, ysgol berffeithio yn Rougemont, y Swistir. Tua'r un cyfnod, cyfarfu â'r Tywysog Charles, a oedd yn canlyn ei chwaer Sarah ar y pryd. Dywedir fod Diana yn rhagori mewn nofio a phlymio a'i bod yn dyheu i fod yn falerina. Astudiai fale am gyfnod, ond am ei bod yn 5'10", roedd yn rhy dal i wneud bale yn broffesiynol.
Cyn iddi droi'n 17 oed, symudodd Diana i Lundain, gan fyw yn fflat ei mam am fod ei mam yn byw yn yr Alban am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Prynwyd rhandy iddi yn Coleherne Court yn ardal Earls Court am £50,000 fel anrheg pen-blwydd wrth ei thad yr Iarll Spencer. Bu'n byw yno tan 1981 gan rannu'r rhandy gyda thri person arall.
Tra'n sefydlu ei hun yn Llundain, aeth ar gwrs coginio a gweithiodd fel hyfforddwraig ddawns nes i ddamwain sgïo beri iddi golli tri mis o waith. Yna cafodd waith fel cynorthwyydd mewn meithrinfa, gweithiodd fel glanheuwraig i'w chwaer Sarah a nifer o'i ffrindiau a gweithiodd fel croesawferch mewn partïon.
Perthynas â Chymru
[golygu | golygu cod]Fel ei phriod, nid oedd y dywysoges yn byw yng Nghymru. Ni ddysgodd Gymraeg ac anaml oedd ei hymweliadau â'r wlad.
Llinach
[golygu | golygu cod]Hynafiaid Diana, Tywysoges Cymru
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Morton, Andrew (2004). Diana: In Pursuit of Love (yn Saesneg). United States: Michael O'Mara Books. t. 70. ISBN 978-1-84317-084-6.
- ↑ Princess Diana unlawfully killed BBC. Adalwyd ar 07-04-2008, 22:34 GMT