Y Tywysog Harri, Dug Sussex

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tywysog Harri)
Y Tywysog Harri, Dug Sussex
FfugenwHenry Wales Edit this on Wikidata
GanwydPrince Henry Charles Albert David of Wales Edit this on Wikidata
15 Medi 1984 Edit this on Wikidata
Ysbyty'r Santes Fair Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd21 Rhagfyr 1984 Edit this on Wikidata
Man preswylPalas Kensington, Nottingham Cottage, Frogmore Cottage, Toronto, Montecito Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpeilot hofrennydd, swyddog milwrol, noddwr y celfyddydau, chwaraewr polo, dyngarwr Edit this on Wikidata
SwyddCounsellor of State Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • BetterUp Inc. Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFinding Freedom, Spare Edit this on Wikidata
Taldra72.5 modfedd Edit this on Wikidata
TadSiarl III Edit this on Wikidata
MamDiana, Tywysoges Cymru Edit this on Wikidata
PriodMeghan Markle Edit this on Wikidata
PartnerAra Bustamante, Cressida Bonas Edit this on Wikidata
PlantPrince Archie of Sussex, Lilibet Mountbatten-Windsor Edit this on Wikidata
PerthnasauLaura Lopes, Tom Parker Bowles Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Windsor Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog-Cadlywydd Urdd Brenhinol Fictoraidd, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Urdd Isabel la Católica, Operational Service Medal for Afghanistan, aelod anrhydeddus, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, King Charles III Coronation Medal, Queen Elizabeth II Platinum Jubilee Medal Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.royal.uk/the-duke-of-sussex, https://sussexroyal.com Edit this on Wikidata
llofnod

Ail fab y Tywysog Siarl a Diana yw Henry Charles Albert David Mountbatten-Windsor neu'r Tywysog Harri, Dug Sussex (ganwyd 15 Medi 1984). Mae'n frawd i'r Tywysog William. Priododd yr actores Meghan Markle ym Mai 2018.[1]

Fe'i addysgwyd mewn ysgolion yn Lloegr a treuliodd gyfnodau o'i flwyddyn bwlch yn Awstralia a Lesotho. Yna cafodd hyfforddiant swyddog yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Fe'i benodwyd yn gornet (sef ail is-gapten) yn y Blues a Royals, gan wasanaethau dros dro gyda'i frawd Y Tywysog William, a cwblhaodd ei hyfforddiant fel arweinydd milwyr. Yn 2007-2008 gwasanaethodd am dros ddeg wythnos yn Helmand, Affganistan, ond tynnodd allan ar ôl i gylchgrawn Awstralaidd ddatgelu ei bresenoldeb yna. Dychweloddi Affganistan am gyfnod o 20 wythnos yn 2012-13 gyda Corfflu Awyr y Fyddin. Gadawodd y fyddin yn Mehefin 2015.

Helyntion[golygu | golygu cod]

Ffrae'r wisg ffansi Natsïaidd[golygu | golygu cod]

Tudalen flaen The Sun gyda llun o'r tywysog yn y parti

Yn Ionawr 2005, mewn parti gwisg ffansi gyda'r thema "Trefedigaethwyr a Brodorion", gwisgodd y Tywysog Harri band braich swastika ac iwnifform Natsïaidd, gan godi ymateb beirniadol iawn[2] ac achosi cryn embaras i'w deulu. Yn ddiweddarach, rhyddhawyd cyhoeddiad ar ei ran yn ymddiheuro am y weithred, ond roedd ei amharodrwydd i ymddiheuro'n bersonol yn cythruddo nifer o grwpiau gwrth-hiliaeth ac unigolion. Cafodd ei feirniadu am wneud sbort ar ben mater difrifol a brifo teimladau teuluoedd pobl a ddioddfefasant dan y Natsïaid. Ond bu rhai o gefnogwyr y teulu brenhinol yn barod i esgusodi'r tywysog[3]

Ffrae saethu'r adar prin[golygu | golygu cod]

Yn Hydref 2007, wynebodd Harri gyhuddiadau o saethu dau aderyn prin tra yn Sandringham[4]. Gwelodd dau gerddwr a warden gwarchodfa natur cyfagos ddau foda tinwyn yn cael eu "blastio o'r awyr" ar 24 Hydref, ond oherwydd y coed nid oeddynt yn medru gweld pwy yn union a'u saethodd. Mae bodau tinwyn ymhlith yr adar prinaf ym Mhrydain; dim ond 20 sy'n byw yn Lloegr felly collwyd 10% o stoc bridio'r adar yn y wlad honno. Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPB fod yr honiadau gan lygad-dystion mai Harri a'i ffrind a fu'n gyfrifol am y saethu yn "gredadwy". Fodd bynnag, penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio â ffurfio cyhuddiadau, penderfyniad sydd wedi cythruddo naturiaethwyr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]