Gwasanaeth Erlyn y Goron
Gwedd
| Enghraifft o: | adrannau anweinidogol y Llywodraeth |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1985 |
| Pennaeth y sefydliad | Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus |
| Pencadlys | Petty France |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://www.cps.gov.uk/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/021vtm |
Adran anweinidogol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw Gwasanaeth Erlyn y Goron (Saesneg: Crown Prosecution Service neu CPS). Mae'n gyfrifol am erlyn achosion troseddol a archwilir gan yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr. Lleolir ei bencadlys yn Rose Court, Southwark, Llundain.
Mae'r Gwasanaeth yn gyfrifol am:
- Gynghori'r heddlu ar achosion y gellid eu herlyn.
- Adolygu achosion a gyflwynir gan yr heddlu.
- Lle penderfynir erlyn, pennu unrhyw gyhuddiadau ym mhob achos heblaw am rai bach.
- Paratoi achosion ar gyfer y llys.
- Cyflwyno achosion yn y llys.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwasanaeth Erlyn y Goron Archifwyd 2010-12-17 yn y Peiriant Wayback