Y Tywysog William, Dug Caergrawnt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Tywysog William, Dug Caergrawnt
Prince William of Wales RAF.jpg
Ganwyd William Arthur Philip Louis Edit this on Wikidata
21 Mehefin 1982 Edit this on Wikidata
Llundain, Paddington Edit this on Wikidata
Man preswyl Llundain Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth hedfanwr, chwaraewr polo, peilot hofrennydd, pendefig Edit this on Wikidata
Swydd Dug Caergrawnt Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Tad Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru Edit this on Wikidata
Mam Diana, Tywysoges Cymru Edit this on Wikidata
Priod Catherine, Duges Caergrawnt Edit this on Wikidata
Plant Tywysog Siôr o Gaergrawnt, Tywysoges Charlotte o Gaergrawnt, Prince Louis of Cambridge Edit this on Wikidata
Teulu Y Tywysog Harri Edit this on Wikidata
Llinach House of Windsor, Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig, Mountbatten-Windsor, House of Glücksburg Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd y Gardys, Order of the Thistle, Medal Jiwbili Aur y Frenhines Lisabeth II, Medal Jiwbili Diamwnd y Frenhines Lisabeth II Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Mab cyntafanedig y Tywysog Siarl a Thywysoges Diana yw William Arthur Philip Louis Mountbatten-Windsor neu'r Tywysog William, Dug Caergrawnt (ganwyd 21 Mehefin 1982). Mae'n frawd i'r Tywysog Harri.

Cafodd ei eni yn Ysbyty Sant Mair, Llundain. Ei famaeth oedd Tiggy Legge-Bourke o Grughywel. Tom Pettifer, mab Tiggy, oedd macwy ym mhriodas William.

Priododd William ei gariad Kate Middleton yn Abaty San Steffan ar 29 Ebrill 2011 ac mae'r ddau, bellach, yn byw ar Ynys Môn. Ganwyd iddynt fab, Tywysog Siôr o Gaergrawnt, ar 22 Gorffennaf 2013.

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Y tywysog yn chwarae polo yn Sandringham (2007)

Mae'r tywysog yn chwarae polo'n rheolaidd, ers ei ddyddiau ysgol e.e. yn Sandringham. Mae'n Arlywydd Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ers Mai 2006. Cyn hynny roedd yn adnabyddus am ei gefnogaeth gyhoeddus a brwd i dîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr a thîm rygbi cenedlaethol Lloegr. Yn Awst 2006 cyhoeddwyd y byddai'n Is-noddwr Brenhinol Undeb Rygbi Cymru o Chwefror 2007 a chyhoeddodd yr URC eu bod am weld cwpan i enillwyr y gemau prawf rhwng timau rygbi Cymru a De Affrica yn cael ei alw'n "Cwpan y Tywysog William". Mae hyn wedi ennyn ymateb beirniadol iawn yng Nghymru gan fod nifer o bobl yn gweld William fel cefnogwr Lloegr.

Rhoddodd gefnogaeth frwd ac amlwg i dîm rygbi Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Undeb y Byd 2007. Eisoes mae nifer o Gymry'n galw ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol ac i ailenwi'r tlws yn "Gwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth i'r diweddar Ray Gravell. Dadleuant fod enwi'r cwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn gwbl anaddas ac mai rheitiach fyddai ei enwi ar ôl Cymro.[1] Lansiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]