Sandringham

Oddi ar Wicipedia
Sandringham
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref King's Lynn a Gorllewin Norfolk
Daearyddiaeth
SirNorfolk
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd41.91 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8274°N 0.5144°E Edit this on Wikidata
Cod SYGE04006345 Edit this on Wikidata
Cod OSTF695285 Edit this on Wikidata
Cod postPE35 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a phlwyf sifil yn Norfolk, Dwyrain Lloegr, ydy Sandringham.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref King's Lynn a Gorllewin Norfolk.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 437.[2]

Lleolir y pentref 12 km (7.5 milltir) i'r gogledd o King's Lynn a 60 km (37 milltir) i'r gogledd-orllewin o Norwich. Mae'r plwyf sifil yn ymestyn i'r dwyrain o bentref Sandringham i lan y Wash tua 6 km (3.7 milltir) i ffwrdd, ac mae'n cynnwys pentrefi West Newton a Wolferton.

Mae Sandringham yn fwyaf adnabyddus fel lleoliad Tŷ Sandringham a'i ystâd, cartref gwyliau a ffefrir gan y Frenhines Elizabeth II a sawl un o'i rhagflaenwyr. Roedd y pentref yn fan geni Diana, Tywysoges Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 14 Ebrill 2020
  2. City Population; adalwyd 14 Ebrill 2020

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Norfolk. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato