Crwner

Oddi ar Wicipedia

Swyddog llywodraethol sy'n ymchwilio i achosion marwolaethau yw crwner (Lladin: custos placitorum coronae; Eingl-Normaneg: corouner).[1] Mae crwner yn un o hen swyddi'r gyfraith gyffredin,[2] ac mae'n parhau heddiw mewn nifer o wledydd. Gan amlaf bydd crwner yn gyfrifol am ymchwilio i farwolaethau annaturiol o fewn awdurdodaeth benodol.

Y Deyrnas Unedig[golygu | golygu cod]

Cymru a Lloegr[golygu | golygu cod]

Mynedfa Llys y Crwner yn London Road Fire Station, Manceinion.

Yng Nghymru a Lloegr mae crwner yn swydd farnwrol annibynnol. Rhaid i grwner fod yn gyfreithiwr neu'n feddyg, ac mewn rhai achosion, y ddau. Maent yn ymchwilio i farwolaethau treisgar neu annaturiol, marwolaethau sydyn am resymau anhysbys, a marwolaethau sydd wedi digwydd yn y carchar.[3] Rhaid hysbysu'r crwner hefyd os na all meddyg teulu roi tystysgrif briodol ynghylch achos y farwolaeth, os digwyddodd y farwolaeth yn ystod llawdriniaeth, neu os afiechyd diwydiannol oedd i gyfrif am y farwolaeth.[4]

Yr Alban[golygu | golygu cod]

Ni cheir crwneriaid yn yr Alban. Y Procuradur Ffisgal sy'n archwilio marwolaethau arbennig, ac weithiau cynhelir ymchwiliad llys gerbron y Barnwr Sirol dan Ddeddf Damweiniau Marwol a Marwolaethau Sydyn (Yr Alban) 1976. Nid yw'r Barnwr Sirol yn arbenigwr mewn marwolaethau, ac felly mae'r swydd yn wahanol i swydd y crwner yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.[5]

Gogledd Iwerddon[golygu | golygu cod]

Yng Ngogledd Iwerddon penodir cyfreithwyr neu fargyfreithwyr gan yr Arglwydd Ganghellor i fod yn grwneriaid.[6]

Gweriniaeth Iwerddon[golygu | golygu cod]

Llys y Crwner, Dulyn.

Rheolir swydd y crwner yng Ngweriniaeth Iwerddon gan Ddeddf Crwneriaid 1962. Os oes rhaid cynnal archwiliad post-mortem, bydd patholegydd yn gweithredu ar ran y crwner.[7]

Canada[golygu | golygu cod]

Llys y Crwner, Vancouver, British Columbia.

Penodir crwneriaid yng Nghanada trwy orchymyn gan Gyngor Gweithredol y dalaith neu'r diriogaeth.[8] Mae crwneriaid neu archwilwyr meddygol yn archwilio rhwng 15% ac 20% o'r holl farwolaethau yng Nghanada.[9]

Unol Daleithiau America[golygu | golygu cod]

Llythyr gan Siryf-Grwner San Luis Obispo County, Califfornia, i gadarnhau bu farw L. Ron Hubbard o achosion naturiol (4 Tachwedd 1987).

Yn yr Unol Daleithiau, mae system o grwneriaid gan tua hanner o'r taleithiau. Yn y mwyafrif o awdurdodaethau mae'n swydd etholedig, ac yn aml bydd gan y crwner y grym i gyhoeddi gwarant i arestio personau gall wedi achosi marwolaeth.[8] Mewn awdurdodaethau eraill, bydd archwiliwr meddygol yn cyflawni dyletswyddau tebyg i'r crwner.[10][11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 47.
  2. Black's Law Dictionary (ail argraffiad, 1910), [coroner].
  3.  Canllaw ar gyfer Crwneriaid a Chwestau a Siarter ar gyfer Gwasanaethau Crwneriaid. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mawrth 2012). Adalwyd ar 7 Awst 2013.
  4.  Swyddfa'r Crwner. Cyngor Sir Gaerfyrddin. Adalwyd ar 7 Awst 2013.
  5. (Saesneg) The position in Scotland. Coroners' Law Resource. Coleg y Brenin, Llundain. Adalwyd ar 7 Awst 2013.
  6. (Saesneg) Coroners, post-mortems and inquests. Llywodraeth Gogledd Iwerddon. Adalwyd ar 7 Awst 2013.
  7. (Saesneg) Coroners. Citizens Information Board. Adalwyd ar 12 Medi 2013.
  8. 8.0 8.1 (Saesneg) coroner. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Medi 2013.
  9. (Saesneg) Canadian Coroner and Medical Examiner Database (CCMED). Statistics Canada. Adalwyd ar 13 Medi 2013.
  10. (Saesneg) Coroner vs. medical examiner. Llyfrgell Genedlaethol Meddygaeth yr Unol Daleithiau. Adalwyd ar 12 Medi 2013.
  11. (Saesneg) The Medical Examiner and Coroner Systems. Medscape. Adalwyd ar 12 Medi 2013.