Robyn Léwis

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Robyn Lewis)
Robyn Léwis
GanwydHydref 1929 Edit this on Wikidata
Llangollen Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 2019 Edit this on Wikidata
Nefyn Edit this on Wikidata
Man preswylNefyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr, barnwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata

Cyfreithiwr, llenor a chyn-Archdderwydd oedd Robyn Léwis neu Robin Llŷn (Hydref 192912 Awst 2019).[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Robyn yn Llangollen ond symudodd y teulu i dref glan-môr Nefyn pan oedd yn dair oed. Roedd ei dad o Ynys Môn a'i daid o gyffiniau y Cilie yng Ngheredigion. Roedd ei fam yn athrawes Ffrangeg a magwyd ef yn dair-ieithog. Bu hefyd yn ymddiddori mewn Almaeneg a Sbaeneg.[2] Roedd ganddo frawd Richard (Dic) a bu farw yn 2018. Aeth i Ysgol Ramadeg Pwllheli ac Ysgol Fonedd Rydal. Cyn mynd i'r coleg treuliodd flwyddyn yn Ffrainc. Mynychodd Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle cychwynodd radd BA Ffrangeg a Saesneg ond newidiodd i radd yn y gyfraith.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Bu'n ieithydd am gyfnod, cyn dod yn gyfreithiwr. Wedi bwrw erthyglau cyfraith ym Mangor sefydlodd ei hun fel cyfreithiwr ym Mhwllheli. Daeth yn ddirprwy farnwr a Chofiadur Cynorthwyol yn Llys y Goron. Wedi ymddeol yn gynnar o'r swydd honno, daeth yn fargyfreithiwr yn Gray's Inn, Llundain. Enillodd ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor am ei draethawd ymchwil "Geiriaduraeth y Gyfraith", ar dermau Cymraeg y gyfraith.

Bu hefyd yn darlithio ar y Gyfraith yn y Gymraeg i ddosbarthiadau nos am tua phum mlynedd.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau ei yrfa, roedd yn weithgar gyda'r Blaid Lafur a sefodd fel ymgeisydd seneddol yn Ninbych yn etholiad cyffredinol 1955. Yn ystod yr 1960au fe adawodd y Blaid Lafur ac ymuno â Phlaid Cymru.

Daeth yn gynghorydd yn ardal Llŷn, a sefodd fel ymgeisydd seneddol Plaid Cymru dros ardal Caernarfon yn etholiad 1970, pan ddaeth yn ail gyda 33% o'r bleidlais. Bu hefyd yn is-lywydd i'r blaid.

Ymddiswyddodd o Blaid Cymru yn 2006 fel protest yn erbyn penderfyniad Elinor Bennett - gwraig arweinydd y blaid ar y pryd, Dafydd Wigley - i dderbyn anrhydedd yr OBE gan y Frenhines.

Llenor[golygu | golygu cod]

Urddwyd ef i'r Wisg Wen yn Eisteddfod Bro Myrddin ym 1974. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Lliw 1980 am Esgid yn gwasgu. Bu'n Archdderwydd, dan yr enw Robin Llŷn, o 2003 hyd 2006. Dyma'r tro cyntaf i'r Archdderwydd gael ei ddewis trwy bleidlais ymhlith holl aelodau'r Orsedd, a'r tro cyntaf i lenor nad oedd yn fardd gael ei ddewis i'r swydd. Ers 1981 roedd yn Swyddog Cyfraith Gorsedd y Beirdd.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd ei wraig, Gwenan Lloyd yn hanu o Borthmadog a Blaenau Ffestiniog - bu farw yn 2013. Treuliodd ef gyfnod yng nghartref gofal Plas Hafan, Nefyn cyn ei farwolaeth yn 89 oed.[4]

Gweithiau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]