Bywyd ar ôl marwolaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bywyd ar ôl marwolaeth (hefyd y bywyd tragwyddol, neu'r byd a ddaw) yw'r syniad fod y meddwl neu'r ymwybyddiaeth yn parhau ar ôl marwolaeth. Mae crefydd, esoteriaeth a metaffiseg yn lliwio'r hyn a gred pobl amdano. Mae llawer o grefyddau'n credu mewn gwahanol bethau pan ddaw'r diwedd. Cred Cristnogion yw bod bywyd ar ôl marwolaeth yn y nefoedd, gyda Duw a Iesu Grist.

Yr Hen Aifft[golygu]

Roedd gan fywyd ar ôl marwolaeth le arbennig yng Nghrefydd Aifft yr Henfyd. Credasant y byddai darnau o'r enaid, sef y ka (body double) a'r ba (y personoliaeth) yn mynd i Deyrnas y Meirw. Tra'r oedd yr enaid yng nghaeau Aaru, byddai Osiris yn mynnu gwaith i dalu am yr amddifyniad a ddarparai. [angen ffynhonnell]

Roedd cyrraedd y bywyd tragwyddol hwn yn dipyn o orchest: roedd angen calon lân, ddi-bechod a'r gallu i adrodd swyngyfareddion Llyfr y Meirw. Yn Neuadd y Ddau Wirionedd, pwysid calon y sawl fu farw a'i gymharu a'r bluen Shu a ddaeth o benwisg y dduwies Ma'at.[1] Os nad oeddent yn ysgafnach na'r bluen, caent eu bwyta gan y cythraul Ammit.

Credodd yr Eifftiaid fod yn rhaid perarogli cyrff y meirw a'u gosod mewn mastuba er mwyn iddynt fyw ar ôl marw. Oherwydd peryglon y bywyd nesaf, rhoddwyd Llyfr y Meirw yn y bedd gyda'r corff, ynghyd â bwyd a thlysau. [angen ffynhonnell]

Zoroastriaeth[golygu]

Cred Zoroastriaid fod yr urvan, enaid di-gorff, yn aros ar y ddaear am dridiau cyn mynd i lawr gyda i deyrnas y meirw, sydd dan lywodraeth Yima. Credant mai Yima oedd y brenin cyntaf ar y ddaear, a'r dyn cyntaf i farw. Mae'r ysbrydion sy'n byw yn nheyrnas Yima yn dibynnu ar eu disgynyddion sy'n dal i fyw ar y ddaear, sy'n eu porthi ac yn rhoi dillad iddynt trwy gyfrwng defodau.

Mae'r defodau yn ystod y tridiau cyntaf yn neilltuol bwysig, gan eu bod yn amddiffyn yr enaid rhag grymoedd niweidiol ac yn rhoi cryfder iddo gyrraedd yr isfyd. Wedi hynny, bydd yr enaid yn croesi pont Chinvat, lle caiff ei farnu ym mhresenoldeb Rashnu a Sraosha. Mae Rashnu yn yazata, ac mae'n dal clorian cyfiawnder. Os mae gweithredoedd da'r ymadawedig yn gorbwyso ei ddiffygion, mae ei enaid yn haeddu mynd i baradwys. Os mae'r diffygion yn gorbwyso, mae'r bont yn gulhau nes ei fod fel llafn cyllell, ac mae hen wrach yn ei dynnu i lawr i uffern. Os bydd y glorian yn gytbwys, fe â i Misvan Gatu, 'lle y rhai cymysg' lle na phrofant na llawenydd na dioddef. [angen ffynhonnell]


Groeg yr Henfyd[golygu]

Yn yr Odyseia, cyfeiria Homer at y meirw fel "plethdorchau wedi eu llosgi'n ulw." Credodd y Groegwyd fod gwynfyd tragwyddol i'w gael yn Elysium, ond nad oedd ar gael ond i ddisgynyddion meidrol Zeus. Yn Chwedl Er, mae Platon yn disgrifio eneidiau'n cael eu barnu'n syth ar ôl marwolaeth ac yn cael eu gyrru yntau i'r nefoedd i'w gwobrwyo neu i'r isfyd i'w cosbi; wedi i'r ddedfryf cael ei gyflawni, caiff yr enaid ei ailymgnawdoli. Y Duw Hades oedd brenin yr isfyd, lle llwm rhwng y boenydfa a'r gorffwysfa. [angen ffynhonnell]

Rhufain yr Henfyd[golygu]

Benthycodd y Rhufeiniaid rhai o syniadau'r Groegwyr, gan ail-enwi Hades fel Plwton. Yn Breuddwyd Scipio, mae Cicero yn disgrifio rhywbeth sy'n ymddangos fel profiad y tu allan i'r corff, lle mae'r enaid yn teithio'n uchel uchel uwchben y ddaear ac yn edrych i lawr ar y blaned fach o bell. Yn llyfr 6 yr Aeneid, mae Fyrsil yn disgrifio fel mae Aeneas yn teithio i'r isfyd i weld ei dad. Wrth lan yr afon Styx, fe wêl eneidiau'r sawl na chawsant gladdedigaeth briodol yn disgwyl wrth lan yr afon am i rywun eu claddu. Yno, gwêl Aeneas lle mae'r rhai a gafodd bai ar gam yn trigo, a chaeau tristwch lle mae'r sawl a laddodd eu hunain yn dyfaru eu gweithred, gan gynnwys cyn-gariad Aeneas, tartarus (lle mae'r titaniaid a'r anfeidrolion grymus yn trigo) lle all glwyed griddfan y carcharorion, palas Plwton a chaeau Elysium lle mae disgynyddion y dwyfol ac arwyr dewr yn trigo. Gwêl afon angof, Lethe, lle mae'n rhaid i'r meirw yfed ac anghofio am eu bywyd a dechrau drachefn. Olaf oll, mae ei dad yn dangos iddo holl arwyr Rhufain y dyfodol bydd yn byw os mae Aeneas yn sefydlu'r ddinas. [angen ffynhonnell]

Llychlyn[golygu]

Yn yr Edda, ceir yr elfennau canlynol:

  • Valhalla: ("Neuadd y Lladdedigion" h.y. "Y Rhai Dethol"). Dim ond rhyfelwyr dewr a fu farw ar faes y gad oedd yn cael myned i'r nef hon, sy'n debyg i'r Elysium Roeg.
  • Hel: ("Y Neuadd dan Orchudd"). Mae'n debyg i Hades y Groegiaid, a chaiff y rhai sydd heb rhagori yn y da nac yn y drwg eu hail-uno a'u ceraint wedi iddynt farw.
  • Niflhel: ("Y Dywyllwch" neu "Uffern Niwlog"). Mae'n debyg i Tartarus y Groegiaid. Mae islaw i Hel, ac mae'r sawl sy'n torri llwon, herwgipio a threisio merched a gwneud pethau ffiaidd eraill yn mynd yno i gael eu cosbi.[angen ffynhonnell]

Hindŵaeth[golygu]

Mae'r Upanishad yn disgrifio ailymgnawdoliad (punarjanma) (gw. hefyd: samsara). Mae'r Bhagavat Gita yn llawer ar fywyd ar ôl marwolaeth. Ynddo, mae Krishna yn dweud bod enaid yn gadael corff ac yn cymryd un newydd yn yr un ffordd ag y mae dyn yn newid hen ddillad am ddillad newydd. Yn Hindŵaeth, y gred yw mai cragen yn unig yw'r corff, a bod yr enaid o'i fewn yn ddigyfnewid ac yn anninistryw, a'i fod yn cael bywydau gwahanol mewn cylchred o fyw a marw. Diwedd y gylchred yw "Moksha" - achubiaeth. Mae'r Garuda Purana yn ymwneud dim ond â'r hun sy'n digwydd ar ôl i rywun marw. Mae Yama, dum marwolaeth, yn anfon ei ddirprwyon i nôl enaid iddo o gorff rhywun pan ddaw'r amser iddo farw. Mae "Chitragupta", gweinyddwr Yama, yn cadw cyfrifon o'r cwbl. Yn ôl y Garuda Purana, wedi i'r enaid adael y corff, mae'n teithio trwy dwnel hir, tywyll tua'r De. Dyma pam fod lamp olew yn cael ei gynnau a'i gadw wrth ben y corff. Gweithredoedd yn ystod y bywyd diweddaraf yw Karma. Bydd ail-eni ar ffurf anifeiliad neu greaduriaid 'isel' os cyflawnwyd Karma drwg, ac ar ffurf dynol mewn teulu da gyda bywyd hapus o'i flaen os mai da oedd y Karma. Rhwng y ddwy genedigaeth, mae hefyd yn rhaid i ddyn wynebu yntai cosb yn "NARKA" neu wobr yn SWARG gan ddibynnu eto ar natur y Karma; pan ddaw hyn i ben, fe'i yrrir yn ôl i'r ddaear. Os mai da heb ddim drwg yw'r Karma, gall fyned i gyflwr "Moksha" neu "Nirvana", sef prif ddeisyfiad Hindŵiaid, pryd mae'r Atma (enaid) yn uno â'r Parmatma, yr enaid mawr. Yn ôl y Bhagavat Gita, mae pump elfen yn y corff: Daear, Awyr, Dŵr, Tân ac Enaid. Mae'r Enaid yn anninistriol ac ni all yr un o'r pedwar elfen arall ddylanwadu arno. Yn y Garuda Purana, ceir disgrifiad manwl o'r gwahanol fathau o Narka neu uffern lle mae rhywun yn cael ei gosbi am Karma drwg. Yn y Bhagavad Gita, mae Arjuna yn oedi cyn lladd ei geraint, ond mae'r arglwydd yn ei geryddu, gan ddweud fel hyn "A wyt yn credu mai tydi yw gwneuthyrwr y weithred. Na. Nid wyt yn ddim ond erfyn yn fy nwylo i. A wyt yn credu bod y bobl o'th flaen yn fyw? Annwyl Arjuna, maent yn feirw eisoes. Fel aelod o'r kshatriys (dosbarth y rhyfelwyr), mae dyletswydd arnat amddiffyn dy bobl a'th dir. Os nad wyt yn cyflawni dy ddyletswyddau, ni fyddet yn cydymffurfio ag egwyddorion dharma." [angen ffynhonnell]

Bwdhaeth[golygu]

Yn ôl y draddodiad Fwdhaidd, mae ail-eni yn digwydd heb i hunan digyfnewid neu enaid myned o'r hen ffurf i'r newydd. Bydd ansawdd moesol (kamma neu karma) gweithredoedd rhywun yn penderfynu pa fath o ail-eni a gaiff. Er enghraifft, lle mae rhywun wedi cyflawni gweithredoedd niweidiol â'i gorff, ei leferydd neu ei feddwl yn seiliedig ar drachwant, casineb a thwyll, caiff ei ail-eni i gylch is, anifail, ysbryd neu gylch uffernol er enghraifft. Ond os mae rhywun wedi dangos haelioni, cariad (metta), trugaredd a doethineb, disgwylir iddo gael ei ail-eni mewn cylch dedwydd, cylch dynol neu gylch dwyfol er enghraifft.

Yn y draddodiad Dibetaidd, mae'r Bardo Thodol - Llyfr y Meirw - yn egluro cyflwr rhyngol bodau dynol rhwng marwolaeth ac ailymgnawdoliad. Bydd y meirw yn canfod golau llachar doethineb sy'n dangos llwybr clir am i fyny sy'n gadael cylch ailymgnawdoliad. Ond mae sawl rheswm pam nad ydyw'r meirw yn dilyn y golau hwnnw; mae rhai nad oedd wedi derbyn cyfarwyddyd yn eu bywyd blaenorol, rhai yn dilyn eu greddfau sylfaenol fel anifeiliaid, ac eraill yn ofni oherwydd gweithredoedd drwg yn y bywyd blaenorol neu oherwydd eu traha ystyfnig. Yn y cyflwr rhyngol, mae'r ymwybod yn dra hyblyg, felly mae'n bwysig bod yn rhinweddol, cymryd agwedd cadarnhaol, ac osgoi syniadau negyddol. Gall syniadau sy'n codi o'r isymwybod greu tymer eithafol neu rhithwelediadau llwfr. Yn y cyflwr hwn, mae rhaid iddynt ddeall mai adlewyrchu meddyliau mewnol yn unig y maent. Ni all neb eu brifo mewn gwirionedd, gan eu bod wedi marw eisoes. Mae gwahanol Fwdhau yn dangos y llwybr clir iddynt. Bydd y sawl nad ydynt yn dilyn y llwybr wedi'r cwbl yn derbyn awgrymiadau am ailymgnawdoliad gwell. Mae'n rhaid iddynt ollwng gafael ar y pethau a bodau y maent yn glynnu wrthynt o'r oes a fu. Argymhellir iddynt ddewis deulu lle mae'r rhieni'n ymddiried yn y Dharma, a'u bod yn ailymgnawdoli gan ddymuno gofalu am bob bod.[angen ffynhonnell]

Siciaeth[golygu]

Mae Siciaid hefyd yn credu mewn ailymgnawdoliad. Maent yn credu bod yr enaid yn perthyn i'r bydysawd ysbrydol sy'n tarddu o Dduw. Gall fod enaid angen byw llawer o fywydau cyn iddo uno â Duw. Ond mae rhagor; mae pedair dosbarth o enaid, a Duw, Waheguru, tu hwnt iddynt; gellir aros gydag ef neu cymryd cam arall er mwyn gwasanaethu cyd-ddyn. Islaw'r pedair dosbarth ceir bodau annynol megis planhigion a feirysau. Mae rhywun yn symyd i fyny neu i lawr y dosbarthiadau ar ddiwedd pob bywyd gan ddibynnu ar ei weithredoedd. [angen ffynhonnell]

Iddewiaeth[golygu]

gw. Iddewiaeth

Cristnogaeth[golygu]

gw. Cristnogaeth

Islam[golygu]

gw. Islam

Bahá'í[golygu]

Yn ôl dysgeidiaeth y Bahá'í, mae natur bywyd ar ôl marwolaeth y tu hwnt i'n dealltwriaeth, yn yr un modd a na all baban yn y groth deall y byd y tu allan. Dywed ysgrythyrau'r Bahá'í fod yr enaid yn anfarwol, ac ar ôl marw fe â yn ei flaen nes gyrraedd presenoldeb Duw. Mae enaidiau ar ôl marwolaeth yn dal gafael ar eu hunaniaeth a'u hymwybyddiaeth, ac maent yn gallu adnabod a chyfathrebu gydag eneidiau eraill y maent wedi gwneud cyfeillgarwch dwys â nhw (gŵr neu wraig er enghraifft). [2]

Dywed ysgrifau'r Bahá'í hefyd bod gwahaniaethau rhwng eneidiau ar ôl marw, ac y bydd eneidiau yn cydnabod gwerth a chanlyniadau eu gweithredoedd eu hunain. Bydd yr eneidiau sy'n troi tua Duw yn profi bodlondeb, tra bydd y sawl sydd wedi tramgwyddo yn ymwybodol o'r cyfleoedd a gollwyd. Hefyd, mae eneidiau yn gallu gwerthfawrogi llwyddiannau eneidiau ar yr un lefel â hwy, ond nid llwyddiannau eneidiau sydd wedi cyrraedd lefel uwch.[2]


Paraseicoleg[golygu]

Ceisiodd Duncan MacDougall fesur y pwysau a gollwyd wrth i'r enaid dynol "adael y corff" ym 1901[3] Pwysodd gleifion wrth iddynt farw, gan obeithio dangos fod yr enaid yn faterol ac y gellid ei fesur. Tybir nad oes gwerth gwyddonol i'w arbrofion, ac er cymaint o amrywiaeth oedd yn ei ganlyniadau, dywed rhai mai "21 gram" yw màs yr enaid. [4] Cyfeiria'r ffilm 21 Grams (2003) at ei ganfyddiadau.

Sefydlwyd y Society for Psychical Research ym 1882 er mwyn ymchwilio i faterion ysbrydol a bywyd ar ôl marwolaeth. Mae'r gymdeithas yn dal i weithio. Ymysg ei haelodau cynharaf oedd gwyddonwyr megis William Crookes, ac athronwyr megis Henry Sidgwick a William James. [angen ffynhonnell]

Wedi 25 mlynedd o ymchwil paraseicolegol, daeth Susan Blackmore i'r casgliad nad oes tystiolaeth empirig am fywyd ar ôl marwolaeth.[5][6]

Mae rhai wedi ceisio cyflawni 'chwiliad gwyddonol am yr enaid', Francis Crick ym 1994 er enghraifft[7] Mae Frank Tipler yn dadlau y gall phiseg egluro anfarwoldeb, er na ellir gwirio dadleuon o'r fath yn arbrofol, ac felly nid ydynt yn deilwng, yng ngolwg Karl Popper, o'r enw gwyddoniaeth.[8]

Ceir peth ymchwil yn trin profiadau y tu allan i'r corff a profiadau bron-a-marw yn ogystal. Er enghraifft, yn 2008, cyhoeddodd Penny Sartori, nyrs o Abertawe lyfr yn disgrifio 10 mlynedd o ymchwil. Dywed Sartori fod pobl sy'n profi profiad y tu allan i'r corff yn teimlo fel petaent yn arnofio uwchben eu cyrff, ac y gallant adrodd "yn gywir" yr hyn ddigwyddodd yn yr ystafell "er bod eu llygaid cnawdol ar gau".[9]

Athroniaeth[golygu]

Cred rhai, yn seiliedig ar gwestiwn hunaniaeth bersonol mewn athroniaeth, ac yn debyg i'r hen gred mewn monoseiciaeth, fod hunaniaeth unigol yn ddim ond rhith, a bod ein ymwybyddiaeth yn parhau i fod ar ôl ein marwolaeth mewn bodau ymwybodol eraill. Roedd sawl ffisegydd nodweddiadol megis Albert Einstein, Erwin Schrödinger a Freeman Dyson yn cefnogi'r syniad o fywyd ar ôl marwolaeth.[10]

Gweler hefyd[golygu]

Ffynonellau[golygu]

  1. Bard, Katheryn (1999). Encyclopedia of the Archaeology of Ancient Egypt. Routledge
  2. 2.0 2.1 Smith, Peter (2008). An Introduction to the Baha'i Faith. Cambridge University Press. ISBN 0521862515
  3. Roach (2005). Spook – Science Tackles the Afterlife. ISBN 0-393-05962-6
  4.  Chwedlau Cyfoes..
  5.  Skeptical Odysseys: Personal Accounts by the World’s Leading Paranormal Inquirers pp 85-94.
  6. Kurtz, Paul (2001). Skeptical Odysseys: Personal Accounts by the World's Leading Paranormal Inquirers. Prometheus Books. ISBN 1573928844
  7. Crick, Francis (1995). The Astonishing Hypothesis – the Scientific Search for the Soul. Touchstone Books. ISBN 0-684-80158-2
  8. Tipler, Franl, J. (1997). The Physics of Immortality – Modern Cosmology, God and the Resurrection of the Dead. Anchor. ISBN 0385467990
  9.   'Nurse writes book on near-death BBC...
  10. Kolak, Daniel (2005). I Am You: The Metaphysical Foundations for Global Ethics. Springer. ISBN 1402029993