Taleithiau a thiriogaethau Canada

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Political map of Canada.png

Mae Canada yn ffederasiwn o ddeg talaith, sydd, ynghyd â thair tiriogaeth, yn ffurfio ail wlad fwya'r byd o ran arwynebedd. Y prif wahaniaeth rhwng talaith a thiriogaeth yng Nghanada yw bod pwerau talaith yn deillio'n uniongyrchol o'r Ddeddf Cyfansoddiad, 1867, sydd yn rhoi iddynt hwythau fwy o hawliau nag sydd gan diriogaeth, sydd â phwerau wedi'u dirprwyo gan y llywodraeth ffederal.

Canada Uchaf, Canada Isaf, New Brunswick a Nova Scotia oedd pedair talaith gyntaf Canada pan luniodd gwladfeydd Gogledd America Brydeinig ffederasiwn ar 1 Gorffennaf 1867. Ail-enwyd Canada Uchaf yn Ontario a Chanada Isaf yn Quebec. Dros y chwe blynedd dilynol, ymunodd Manitoba, British Columbia ac Ynys y Tywysog Edward fel taleithiau.

Roedd Cwmni Bae Hudson (Hudson's Bay Company) yn rheoli rhannau sylweddol o orllewin Canada hyd at 1870, cyn i'r tir ddod i feddiant Llywodraeth Canada, gan ffurfio rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin. Ar 1 Medi 1905, ffurfiwyd Alberta a Saskatchewan o'r rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin a orweddai i'r de o'r paralel 60°.

Mewn refferendwm yn 1948, gyda mwyafrif bach, pleidleisiodd trigolion Newfoundland a Labrador dros ymuno â'r conffederasiwn. O ganlyniad, ar 13 Mawrth 1949, ymunodd Newfoundland a Labrador fel degfed talaith Canada.



Taleithiau a thiriogaethau Canada Baner Canada
Taleithiau: Alberta | British Columbia | Manitoba | New Brunswick | Nova Scotia | Ontario | Québec
Saskatchewan | Prince Edward Island | Newfoundland a Labrador
Tiriogaethau: Nunavut | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin | Yukon