Heddlu De Cymru
Gwedd
Ardal Heddlu De Cymru wedi'i dywyllu | |
| Enghraifft o: | heddlu tiriogaethol |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1969 |
| Pencadlys | Pen-y-bont ar Ogwr |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://www.south-wales.police.uk/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05nj9w |
| Quora | South-wales-police |
Un o bedwar heddlu Cymru yw Heddlu De Cymru (Saesneg: South Wales Police). Mae'n gwasanaethu awdurdodau unedol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg. Mae ei bencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Fe'i sefydlwyd dan yr enw South Wales Constabulary ar 1 Mehefin 1969 pan unwyd heddluoedd Sir Forgannwg, Caerdydd, Abertawe a Merthyr Tudful. Ar ôl i lywodraeth leol gael ei diwygio yn Ebrill 1974 ehangodd ei ardal i gynnwys tair sir newydd Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg. Ar ôl i'r diwygiad diweddarach yn Ebrill 1996, collodd y llu Gwm Rhymni i Heddlu Gwent a mabwysiadodd ei enw presennol.