21ain ganrif yng Nghymru
Yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru.
Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Enillodd Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 Gydsyniad Brenhinol, roedd hyn yn golygu y byddai'r Frenhines yn cael ei hadnabod fel Her Majesty in Right of Wales o Fai 2007 ymlaen, a byddai'n penodi gwinidogion Cymreig ac arwyddo Gorchmynion Cymreig yn y Cyngor. Roedd hefyd yn darparu'r posibilrwydd o gynnal refferendwm yn y dyfodol i ofyn i bobl Cymru os fyddent eisiau i'r Cynulliad allu ennill fwy o bwerau megis y gallu i basio deddfwriaeth gynradd, h.y. y gallu i greu cyfreithiau Cymreig.
Diwydiant[golygu | golygu cod]
Caewyd nifer o ffatrioedd yng Nghymru yn ystod y 2000au, gyda nifer yn symud dramor oherwydd y graddfa gyfnewid, gyda'r bunt yn gryf iawn, a chostau cyflogi yn rhatach dramor. Roedd Burberry yn un enghraifft o hyn. Bu i nifer o fusnesau ddod yn doreddig yn ystod Argyfwng economaidd 2008-presennol.
Iaith a diwylliant[golygu | golygu cod]
Dangosodd Cyfrifiad 2001 gynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, gyda 21% o'r boblogaeth 3 oed a hŷn yn gallu'r iaith, o'i gymharu â 18.7% ym 1991 ac 19.0% ym 1981. Mae hyn yn gyferbyniad i'r patrwm o leihad yn nifer y siaradwyr trwy gydol yr 20g.[1]
Uchafbwyntiau[golygu | golygu cod]
- 2001 - Clwyf y traed a’r genau, ym Mhowys yn arbennig
- 2006 - Deddf Llywodraeth Cymru 2006
- 2 Ebrill 2007 - Gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus