Tom Ellis (gwleidydd)

Oddi ar Wicipedia
Tom Ellis
Ganwyd15 Mawrth 1924 Edit this on Wikidata
Rhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ebrill 2010 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Senedd Ewrop, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl hon am Tom Ellis Aelod Seneddol Wrecsam 1970-1983. Am Tom Ellis Aelod Seneddol Meirion 1866-1899 gweler Thomas Edward Ellis.

Gwleidydd Cymreig oedd Robert Thomas "Tom" Ellis (15 Mawrth 192414 Ebrill 2010). Bu'n Aelod Seneddol Llafur cyn ymuno â Phlaid y Democratiaid Cymdeithasol.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Tom Ellis yn y Pant, Rhosllannerchrugog, yn fab i Robert Ellis, glöwr ac Edith Ann (née Hughes) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol y Wern ac yn Ysgol Ramadeg Riwabon cyn mynd ymlaen i astudio Cemeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor lle enillodd gradd BSc ym 1944.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n gweithio fel cemegydd yn ffatri ffrwydron ICI Nobel ym Mhenrhyndeudraeth. Ym 1947 symudodd yn ôl i ardal ei febyd gan weithio fel mwynwr ym mhwll glo Gresffordd hyd 1950. Cafodd ysgoloriaeth gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol i astudio ym Mhrifysgol Nottingham lle graddiodd yn BSc eto ym 1952.

Bu'n ddirprwy rheolwr ar bwll glo'r Bers o 1952 i 1957 ac yna'n rheolwr cynorthwyol ar brif bwll y Llai o 1957 i 1960 Ym 1960 fe'i penodwyd yn rheolwr pwll y Bers.

Gyrfa Gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Fel llawer o ddynion o gefndir dosbarth gweithiol diwydiannol daeth Ellis yn gefnogwr brwd o wleidyddiaeth y Blaid Lafur. Safodd etholiad am y tro cyntaf yn Etholaeth Sir y Fflint yn Etholiad Cyffredinol 1966 ond ni fu'n llwyddiannus.

Safodd eto ym 1970 fel ymgeisydd yn etholaeth Wrecsam ar ymddeoliad yr AS cyfredol James Idwal Jones gan dal y sedd yn gyffyrddus dros ei blaid. Safodd yn llwyddiannus dros Wrecsam eto yn nau Etholiad Cyffredinol 1974 ac yn Etholiad Cyffredinol 1979.

Roedd Tom Ellis yn gefnogol iawn i achos Ewrop a gan hynny dewiswyd ef ym 1974 fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i un o'r gweinidogion mwyaf brwd o blaid Ewrop Bill Rodgers (a daeth yn ddiweddarach yn un o'r arweinwyr a sefydlodd y Democratiaid Cymdeithasol) a'r flwyddyn ganlynol daeth yn aelod Llafur dirprwyedig yn Senedd Ewrop yn y cyfnod cyn i ASEau cael eu hethol yn uniongyrchol.[1]

Roedd Aelodau Seneddol Dirprwyedig Llafur yn cael eu dewis yn flaenorol gan Swyddfa'r Chwipiaid, drefn a defnyddiwyd ganddynt fel modd i gadw ASau anniddig i ffwrdd o San Steffan - ond ar ôl cwynion, enillodd y Blaid Lafur Seneddol yr hawl i ethol y ddirprwyaeth. Cafodd Ellis ei dewis gan ei Blaid Seneddol fel y cynrychiolydd Llafur dros Gymru, ac y mae yn cael ei gofio gan ei gydweithwyr yn Senedd Ewrop y cyfnod fel dyn gweithgar ac egwyddorol. Er ni chafodd pob gweithgaredd ganddo groeso gan ei gyd seneddwyr gan iddo gael ei feirniadu ar un achlysur am y weithred "annerbyniol" o gyflwyno araith yn y Gymraeg yn y Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel.[2]

Y Rhwyg efo Llafur[golygu | golygu cod]

O gychwyn ei yrfa seneddol yr oedd anghydfod amlwg rhwng Ellis a chwith y Blaid Lafur. Ym mis Hydref 1971 galwodd y Cyngor Llafur Cymreig am iddo ef a 3 aelod seneddol arall cael eu gwahardd rhag sefyll etholiad eto yn enw'r blaid gan iddo fynd yn groes i chwip y blaid a phleidleisio o blaid aelodaeth Prydain o'r Farchnad Gyffredin.

Roedd wedi cael ei ddadrithio gan y gwrthwynebiad gan rai yn y Blaid Lafur i'r iaith Gymraeg ac i ddatganoli ac ni faddeuodd ei gyd Lafurwr Gymreig Neil Kinnock am ymgyrchu yn erbyn Cynulliad i Gymru a Senedd i'r Alban.[2]

Ar ôl i'r Blaid Lafur cael crasfa gan y Torïaid yn etholiad 1979 dechreuodd Ellis fynegi ar goedd ei bryderon bod y "chwith gwallgof" yn distrywio’r Blaid Lafur. Ym mis Medi 1980 yr oedd yn un o 11 o Aelodau Seneddol i fynnu diwygio Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Llafur a oedd yn cael ei dominyddu gan y chwith. Gan iddo annog arweinydd y blaid James Callaghan i ddelio'n chwyrn efo'r chwith eithaf cafodd gerydd swyddogol gan ei blaid seneddol.

Credid yn gyffredinol bod Tom Ellis wedi cefnogi Michael Foot yn etholiadau arweinyddiaeth Y Blaid Lafur ym 1980, gan ei fod yn gwybod ei fod am ymadael a Llafur ac yn credu y byddai Foot yn arweinydd mwy niweidiol i Lafur na Denis Healey, ond mewn cyfweliad efo'r Independent ar ôl marwolaeth Ellis wadodd yr AS Tam Dalyell bod unrhyw wirionedd i'r honiad. " All I can say is that he told me differently, and I believed him. He was straightforward and honest in all that he did. He told me, I voted for Michael because Denis was tepid about Europe and had told us, furthermore, that those like you and me who were against East of Suez had 'tiny Chinese minds'." [3]

Ym Mis Ionawr 1981 daeth Tom Ellis yr Aelod Seneddol Llafur cyntaf i ddatgan yn gyhoeddus ei fod yn barod i frwydro yn erbyn Llafur yn yr etholiad nesaf o dan label arall. Roedd yn bygwth i sefyll fel ymgeisydd annibynnol oni bai bod Llafur yn gwrthdroi rhai o'i bolisïau mwy eithafol ac ymhen tair wythnos wedyn fe gyfunodd ei hun a'r Gang o Bedwar wrth iddynt lansio y Cyngor ar gyfer Democratiaeth Cymdeithasol.

O ganlyniad i'w ymddygiad pasiodd aelodau ei blaid yn etholaeth Wrecsam cynnig o ddiffyg hyder ynddo a basiwyd o 37 pleidlais i 2. Ar Chwefror 20fed ymddiswyddodd o'r Blaid Lafur gan ymuno â Phlaid y Democratiaid Cymdeithasol adeg ei lansio ar Fawrth 26 1981. Roedd yn un o dri AS o Gymru i ymuno â'r blaid newydd; y ddau arall oedd Jeffrey Thomas ac Ednyfed Hudson Davies, ac fe etholwyd yn llywydd y Democratiaid Cymdeithasol Cymreig.

Ymgeisydd Seneddol y Democratiaid Cymdeithasol[golygu | golygu cod]

Ar ôl ymadael a'r Blaid Lafur safodd Tom Ellis fel ymgeisydd seneddol San Steffan dair gwaith ac fel ymgeisydd ar gyfer Senedd Ewrop ar un achlysur.

Bu newid yn ffiniau etholaeth Wrecsam ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1983 a throsglwyddwyd rhannau helaeth o'r etholaeth, gan gynnwys ardal "gartref" Ellis yn Rhosllannerchrugog i etholaeth Newydd De-Orllewin Clwyd ac yn yr etholaeth newydd penderfynodd ceisio cael ei ailethol i San Steffan fel AS y Democratiaid Cymdeithasol. Mewn ymgyrch hynod o agos rhyngddo ef, ei hen blaid a'r Ceidwadwyr methodd ei ymgais o drwch y blewyn gan iddo golli o 3.6% o'r bleidlais i'r ceidwadwr Robert Harvey.

Safodd yn etholaeth Gogledd Cymru yn Etholiadau Ewrop 1984 gan gael un o ganlyniadau parchusaf ei blaid yn yr etholiad hwnnw ar 26% o'r bleidlais ond eto'n brin o'r bleidlais angenrheidiol i gipio'r sedd.

Safodd eilwaith yn Ne-Orllewin Clwyd yn etholiad cyffredinol 1987 gan lithro i'r trydydd safle wrth i Martyn Jones cipio'r sedd i Lafur gan y Ceidwadwyr.

Ei ymgyrch etholiadol olaf oedd isetholiad Pontypridd 1989 yn enw'r glymblaid rhwng y Democratiaid Cymdeithasol a'r Rhyddfrydwyr, lle daeth yn bedwaredd gwael gan golli ei ernes.

O 1988 i 1990 bu'n Llywydd Plaid Y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Bywyd Personol a Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Ymbriododd Tom Ellis ar 22 Rhagfyr 1949 a Nona, merch Vernon Harcourt Williams, Penrhyndeudraeth bu hi marw yn 2009, cawsant 4 plentyn, tri mab ac un merch. Bu farw Tom Ellis o'r cancr ar 14 Ebrill 2010. Cynhaliwyd ei angladd yn amlosgfa Pentrebychan ger Wrecsam.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Ellis, Tom (1971). On Mines and Men. Educational Explorers.
  • Ellis, Tom (2003). Dan Loriau Maelor: Hunangofiant Tom Ellis. Gwasg Gomer. ISBN 1-84323-179-4.
  • Ellis, Tom (2004). After The Dust Has Settled: The Autobiography of Tom Ellis. Bridge Books. ISBN 1-84494-013-6.
  • Ellis, Tom (2008). R. S. Thomas a'i Gerddi. Y Lolfa. ISBN 1-84771-051-4.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
James Idwal Jones
Aelod Seneddol dros Wrecsam
19701983
Olynydd:
John Marek