Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd cyflwyno'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), 2016 ar 12 Medi 2016 yn ddigwyddiad hanesyddol gan mai dyma'r tro cyntaf i senedd yng Nghymru greu treth newydd ers bron i 800 mlynedd. Roedd yn disodli treth tir y dreth stamp a oedd yn cael ei thalu gan unrhyw un sy'n prynu, lesio neu'n rhentu adeilad neu dir dros bris penodol. Dyma'r Bil cyntaf i'w gyflwyno dan Raglen Ddeddfwriaethol newydd Llywodraeth Cymru.

Yn y flwyddyn ariannol 2014-15, cododd y dreth stamp tua £170 miliwn yng Nghymru ond mae disgwyl i'r swm yma gynyddu i £244 miliwn erbyn 2018-19. Bydd hefyd yn cynnwys mesurau i fynd ymwneud â phobol sy'n osgoi talu treth.

Bydd cyfraddau a bandiau'r dreth trafodiadau tir yn cael eu cyhoeddi oddeutu Ebrill 2018, gyda'r sefyllfa economaidd a'r blaenoriaethau yn cael eu hystyried bryd hynny.

Dyma'r prif newidiadau:

  1. Rheol gyffredinol newydd yn erbyn osgoi trethi (GAAR) i helpu i atal osgoi trethi ac i ddelio â'r mater yn gadarn;
  2. Rheol wedi'i thargedu yn erbyn osgoi trethi (TAAR), a fydd yn gymwys i bob math o ryddhad;
  3. Eithrio dau ryddhad mewn perthynas â datgydfuddiannu cwmnïau yswiriant a chymdeithasau adeiladu;
  4. Diwygio rhai rhyddhadau eraill er mwyn iddynt weithio'n well neu mewn ffordd sy'n fwy perthnasol i Gymru;
  5. Bydd elfen rent lesoedd preswyl newydd yn esempt rhag treth o dan y dreth trafodiadau tir.   
  6. Symleiddio'r rheolau'n ymwneud â lesoedd.[1]

Yr Awdurdod Refeniw Cymreig fydd yn gyfrifol am gasglu'r arian. Hwn yw'r mesur hiraf (220 tudalen) o ddeddfwriaeth y mae'r gweinidogion erioed wedi ei gyhoeddi. Disgwylir sêl bendith brenhines Lloegr erbyn gwanwyn 2017.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. gov.wales; adalwyd 12 Medi 2016.
  2. Gwefan y BBC; adalwyd 12 Medi 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]