Sgwrs Nodyn:Hanes Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Delwedd addas[golygu cod]

Diolch am ailwampio'r nodiadau, Rhys, ond rhaid i mi ddweud na fedraf gytuno o gwbl ag un newid yma, sef rhoi'r ddelwedd o'r "Fathodyn Brenhinol" nawddoglyd yn lle'r Ddraig Goch. Mae hyn yn fathodyn gyda phwrpas gwleidyddol amlwg a roddwyd gan Frenhines/llywodraeth y DU i gael ei defnyddio gan Lywodraeth y Cynulliad. Yn fy marn i dydy o ddim yn cynrychioli Hanes Cymru ac yn wir baswn i'n deud fod nifer o Gymry gwladgarol yn ei gweld fel arwyddlun gwrthun a chwbl annerbyniol oherwydd y modd nawddoglyd ac israddol y mae'n dangos Cymru, yn enwedig gyda'r goron anferth, symbolau yr Alban, Lloegr ac Iwerddon(!!!) yn ei amgylchynu, ac arfbais y "Tywysog Cymru" Seisnig yn ei chanol. Hoffwn gynnig newid hyn a chael y Ddraig yn ôl; symbol Cymru ers y cychwyn cyntaf. Oes gan rywun arall farn am hyn? Anatiomaros 16:53, 18 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Cytuno. Mae'n symbol brenhinol yn hytrach na symbol o Gymru. Rhion 17:56, 18 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Sori! y rheswm oedd bod gan gwybodlen Cymru (ar erthygl Cymraeg) yr un llun o'r ddraig ac felly edrychais ar gwybodlen hanes Cymru ar y wicipedia Saesneg i weld os oedd yna lun gwahanol a dyna oedd y llun -(edrychwch ar en:History of Wales). Hwyl, Rhys Thomas 20:00, 18 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Efallai bydd hwn ychydig yn well! Mae hollol lan i chi- fi'n just yn meddwl bod ychydig o amrywiaeth yn neis! Rhys Thomas 20:08, 18 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Mae hynny'n well o lawer, Rhys. Diolch. Roeddwn i'n meddwl tybed oedd o'n dod o'r nodyn ar 'en:' - typical! Rhaid i mi geisio ei newid ar ein chwaer-wici hefyd, am y rhesymau uchod, h.y. bathodyn brenhinol newydd Llywodraeth y Cynulliad ydy o, llawn o symbolaeth wleidyddol amlwg, ac felly'n anaddas ac annerbyniol. Ho-hym, dyna ddadl arall i godi fan-na felly! Hwyl, Anatiomaros 20:24, 18 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Wedi newid o ar 'en:' hefyd. Coeliwch neu beidio, roedd rhyw anwybodusyn wedi mynd yno a newid nid yn unig y faner ond wedi rhoi'r nodyn ei hun yn y category "English history navigational boxes" a dan 'England' yn y categori arall yno!!! Dwi'n meddwl am adael nodyn bach iddo/iddi hefyd! (ar ôl cyfrif i gant...) Anatiomaros 20:41, 18 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Mae'n edrych yn well rwan (hynod debyg i un ni...!). Anatiomaros 21:27, 18 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]