Chwaraeon yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

O gofio cwrwgarwch cynhenid y Cymry, does fawr o syndod bod y Cymry'n bencampwyr yn y chwaraeon hynny – snwcer a dartiau – sydd â'u cartref yn y dafarn.

Hanes Cymru, John Davies

Dau o'r chwaraeon mwyaf poblogaidd yng Nghymru yw pêl-droed a rygbi. Chwaraeir hefyd dartiau, snwcer, criced, syrffio, dringo, golff, paffio, athletau, ralïo, hoci iâ, a phêl-fas.

Yr hen chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Tri o hen chwaraeon gwerin Cymru oedd cnapan, bando, a'r hen bêl-droed. Chwaraeid y rhain gan niferoedd mawr o ddynion, yn aml holl plwyf yn erbyn plwyf neu ardal arall. Ar ddydd Sul neu ar ddyddiau gŵyl yr eglwys, hynny yw y Nadolig, y Pasg, Dydd Mawrth Ynyd a gwyliau'r seintiau, roedd y gemau yma'n cael eu chwarae. Achos i'r boblogaeth wledig dod at ei gilydd oedd rhain: roedden nhw'n treulio'r noson cyn yr ŵyl yn yr eglwys yn gweddïo, ac yn mwynhau eu hunain yn y prynhawn ar y dydd. Roedd y gwragedd a'r plant lleol yn tyrru i weld y gemau, rhai ohonynt gyda bwyd a diod i gadw'r chwaraewyr i fynd. Roedd rhai chwaraeon eraill yn digwydd yn y fynwent ac o gwmpas yr eglwys ar yr un pryd: tenis, dawnsio o gwmpas y Fedwen Fai, a chwarae pêl-law yn erbyn muriau'r eglwys. Bu eraill yn chwarae dîs a chardiau ym mhorth yr eglwys, ac yn betio ar y gemau ac yn meddwi. Cafodd y traddodiadau hyn eu taro'n gryf gan agweddau'r Diwygiad Methodistaidd a deddfau yn erbyn chwarae ar y Sul. Fe aeth llawer o hen chwaraeon y Cymry ar goll, ac yn sgil y Chwyldro Diwydiannol daeth y Saeson â'u mabolgampau nhw i drefi a phentrefi'r pyllau glo.[1]

Cnapan[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Cnapan

Ffurf ar bêl droed gwerinol yr Oesoedd Canol ond ychydig yn debycach i rygbi oedd cnapan. Roedd y fath gêm yn boblogaidd ledled Cymru ond chwaraeid o dan yr enw hwn yng ngogledd Sir Benfro a de Ceredigion.[2] Y cnapan oedd yr enw ar y bêl, hynny yw pêl bren fechan wedi ei berwi mewn saim er mwyn ei gwneud hi'n llithrig ac yn anodd ei dal.[3] Nod y gêm oedd i daflu'r cnapan yn ôl ac ymlaen gan geisio'i gadw'n agos at gôl eich hunan, sef man penodol ar eich tiriogaeth eich hun, gan amlaf porth neu gyntedd yr eglwys. Gollyngid y bêl hanner ffordd rhwng y ddwy gôl a'i llain chwarae oedd yr holl dir agored rhyngddynt.[2] Yn ogystal â'r nifer fawr o ddynion ar draed, roedd hefyd chwaraewyr ar gefn ceffylau ac yn cario pastwn, a chanddynt yr hawl i bastynu dyn o'r tîm arall gyda'r cnapan yn ei feddiant nes ei fod e'n taflu'r cnapan. Roedd y gêm yn gorffen pan oedd y cnapan yn mynd yn rhy bell i'r tîm arall ei gael yn ôl cyn diwedd y dydd.[3] Erbyn y 19eg ganrif fe'i gwaharddwyd yn aml gan yr awdurdodau oherwydd y betio a'r trais a oedd yn gysylltiedig â'r gêm.[2]

Bando[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Bando

Gêm yn debyg i hoci neu hyrli oedd bando. Ceisiai tîm â chynifer â 30 o chwaraewyr fwrw pêl rhwng pyst eu gwrthwynebwyr.[4] Defnyddid ffyn crwca i daro'r pêl fach gron yn ôl ac ymlaen. Chwaraeid bando ar y traethau gwastad ar lannau'r môr.[5]

Pêl-droed traddodiadol[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwaraeid yr hen ffurf o bêl-droed mewn strydoedd y dref neu'r pentref. Y brif wahaniaeth o ran rheolau rhwng cnapan a'r ffurf hon o bêl-droed oedd y gellid ddefnyddio'r dwylo i gyffwrdd y cnapan: dim ond cicio'r bêl â'r traed a ganiateid mewn gornest pêl-droed. Swigen neu bledren eidion mewn câs o ledr oedd y bêl. Roedd y bêl yn ysgafn ond yn hawdd ei byrstio ac felly roedd eisiau wyth neu naw o beli mewn gornest go fawr. Porth yr eglwys oedd y gôl yn aml.[6] Parhaodd yr ornest draddodiadol ar Ddydd Mawrth Ynyd hyd y 1890au yn Arberth, Sir Benfro.[7]

Chwarae pêl (pêl-law Cymreig)[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Pêl-law

Wrth chwarae pêl, neu bêl-law, bu dau neu bedwar chwaraewr yn eu tro yn taro pêl gyda chledr y llaw yn erbyn wal o fewn cwrt tair ochr (megis cwrt sboncen). Mae'n debyg i'r gêm Seisnig pummau a phêl-law Gwyddelig.[8] Roedd yn boblogaidd o'r Oesoedd Canol ymlaen a datblygodd yn gêm gystadleuol ym maes glo'r de yn y 19eg ganrif. Adeiladwyd cyrtiau ger y tafarnau a roddai nawdd i'r gornestau; "plaen" oedd yr enw lleol ar y cwrt. Chwaraewyd gornestau rhyngwladol ar y plaen pêl yn Nelson, Caerffili, ar ddiwedd yr 20fed ganrif.[9]

Pêl-droed[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Pêl-droed yng Nghymru

Rygbi[golygu | golygu cod y dudalen]

Rygbi'r undeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Rygbi'r undeb yng Nghymru

Rygbi'r gynghrair[golygu | golygu cod y dudalen]

Codi pwysau[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Codi pwysau yng Nghymru

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Ivor Owen. Golwg ar Gymru ei Hanes a'i Phobl (Y Bontfaen, D. Brown a'i Feibion, 1976), tt.125–128.
  2. 2.0 2.1 2.2 Gwyddoniadur Cymru, t. 176 [CNAPAN].
  3. 3.0 3.1 Golwg ar Gymru, t. 125.
  4. D. Geraint Lewis. Lewisiana (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 74.
  5. Golwg ar Gymru, t. 126.
  6. Golwg ar Gymru, tt. 125–126.
  7. Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs (Caerdydd, Amgueddfa Werin Cymru, 1978), t.75.
  8. Lewisiana, t. 75.
  9. Gwyddoniadur Cymru, t. 247 [CHWARAE PÊL].