Emlyn Hooson

Oddi ar Wicipedia
Emlyn Hooson
Ganwyd26 Mawrth 1925 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 2012 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbarnwr, gwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadHugh Hooson Edit this on Wikidata
PriodShirley Margaret Wynne Hamer Edit this on Wikidata
PlantSioned Hooson, Lowri Hooson Edit this on Wikidata

Gwleidydd, bargyfreithiwr a Chwnsler y Frenhines oedd Hugh Emlyn Hooson, y Barwn Hooson neu Yr Arglwydd Emlyn Hooson (26 Mawrth 1925 - 21 Mawrth 2012). Bu'n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Faldwyn rhwng 1962 ac 1979.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hooson yng Ngholomendy, Sir Ddinbych, ar y 26 Mawrth, 1925. Mynychodd Ysgol Ramadeg Dinbych rhwng 1936-42, gan fynd ymlaen i ddechrau astudio'r gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1943, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymunodd gyda'r Llynges Frenhinol, gan ddychwelyd i Aberystwyth a graddio gyda Ll.B yn 1948.[1]

Priododd Shirley Margaret Wynne Hamer yn 1950- merch Syr George a'r Foneddiges Hamer o Lanidloes, Powys.

Gyrfa gyfreithiol[golygu | golygu cod]

Yn 1949 cafodd ei alw i'r bar yng Gray's Inn. 11 mlynedd yn ddiweddarach, yn 1960, gwnaed yn Gwnsler y Frenhines, gan fynd ymlaen i ddod yn Ddirprwy Gadeirydd ar Sesiynau Chwarter Sir Fflint a Meirionydd (1960-71). Ef fu'n amddiffyn y llofrudd plant Ian Brady a garcharwyd yn 1966.

Daeth yn Gofnodwr ym Merthyr Tudful ac Abertawe yn 1971, gan hefyd gael ei ethol yn Gadeirydd Cylchdaith Cymru a Chaer rhwng 1971 a 1974.[1]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Safodd Hooson fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Conwy yn Etholiad Cyffredinol 1950 a 1951.

Yn dilyn marwolaeth Aelod Seneddol Rhyddfrydol Maldwyn, Clement Davies yn 1962, dewiswyd Hooson fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol i ymladd yr is-etholiad. Gan ennill 13,181 o bleidleisiau, llwyddodd gadw'r sedd yn nwylo'r Blaid Ryddfrydol yn gyfforddus. Bu iddo ennill yn yr etholaeth eto yn 1964, 1966, 1970 a dau etholiad 1974, ond collodd yn 1979 i'r ymgeisydd Ceidwadol, Delwyn Williams- y tro cyntaf am gwta ganrif i'r etholaeth syrthio allan o ddwylo'r Blaid Ryddfrydol.[1]

Tra'n Aelod Seneddol dros Faldwyn, bu'n arweinydd y Blaid Ryddfrydol Gymreig rhwng 1966 a 1979. Bu iddo gystadlu am arweinydd Prydeinig y Blaid Ryddfrydol yn 1967, gan dynnu'n ôl mewn bri i Jeremy Thorpe.

Yn dilyn ei drechiad yn 1979, apwyntiwyd Hooson i'r Ty'r Arglwyddi fel Arglwydd am Oes, dan y teitl y Barwn Hooson o Drefaldwyn ym Mhowys, a Cholomendy yn Ninbych.

Bu'n Lywydd ar y Blaid Ryddfrydol Gymreig rhwng 1983 ac 1986.

Gyrfa fusnes[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr 1980au, daeth Hooson yn Gadeirydd Hafren/Severn Television mewn ymgyrch aflwyddiannus am freintiau darlledu ITV am Gymru a'r Gorllewin rhwng 1982-90.

Rhwng 1985 a 1995, daeth yn Gyfarwyddwr ar fusnes Laura Ashley, gan ddod yn Gadeirydd ar y busnes rhwng 1995 ac 1996. Rhwng 1991 ac 1999 roedd yn Gadeirydd ar Severn River Crossing plc.[1]

Anrhydeddu a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Daeth Hooson yn Gymar Anrhydeddus i Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1987. Yn yr un flwyddyn, daeth yn Lywydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen- safle bu ddal tan 1993. Rhwng 1995 a 1998 daeth yn Lywydd Wales International. Yn 2001 bu'n Lywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych.[1]

Bu farw ar 21 Chwefror 2012.[2] Bu farw ei wraig yr Arglwyddes Hooson ar 22 Ebrill 2018.[3]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Derec Llwyd Morgan, Emlyn Hooson: Essays and Reminiscences (Llandysul: Gomer: 2014)
  • Davies, Glyn (Ebrill 2012). Yr Arglwydd Hooson (1925-2012), Rhifyn 591. Barn

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Llwyd Morgan, Derec (gol.). Emlyn Hooson: Essays and Reminiscences. (Llandysul: Gomer: 2014)
  2. Andrew Roth (26 Chwefror 2012). "Lord Hooson obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Mawrth 2022.
  3. Lady Shirley Hooson, former Llanidloes mayor, dies aged 91 (en) , County Times, 26 Ebrill 2018.


Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Clement Davies
Aelod Seneddol dros Faldwyn
19621979
Olynydd:
Delwyn Williams