Y Democratiaid Rhyddfrydol (DU)
Y Democratiaid Rhyddfrydol Liberal Democrats | |
---|---|
Arweinydd | Ed Davey |
Dirprwy Arweinydd | Daisy Cooper |
Llywydd | Mark Pack |
Sefydlwyd | 3 Mawrth 1988[1] |
Unwyd gyda | Plaid Ryddfrydol (DU) Democratiaid Cymdeithasol |
Pencadlys | 8–10 Great George Street, Llundain, SW1P 3AE [2] |
Asgell yr ifanc | Liberal Youth |
Aelodaeth (2023) | 90,000+[3] |
Rhestr o idiolegau | Rhyddfrydiaeth Rhyddfrydiaeth gymdeithasol |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol |
Partner rhyngwladol | Liberal International |
Lliw | Melyn |
Tŷ'r Cyffredin | 72 / 650 |
Tŷ'r Arglwyddi | 79 / 790 |
Cynulliad Llundain | 2 / 25 |
Llywodraeth leol | 3,085 / 18,646 |
Senedd yr Alban | 4 / 129 |
Senedd Cymru | 1 / 60 |
Gwefan | |
libdems.org.uk |
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid wleidyddol ryddfrydol, gymdeithasol sy'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig ac a elwir ar lafar yn Lib Dems. Hyd at 2015, hi oedd y drydedd blaid fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.[4][5][6]
Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol a Plaid y Democratiaid Cymdeithasol (Social Democratic Party neu'r "SDP"). Cyn hynny am saith mlynedd, roedd y ddwy blaid wedi ffurfio'r 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr'. Hyd at 1988, bu'r Blaid Ryddfrydol mewn bodolaeth am 129 mlynedd, gydag arweinwyr cryf a Chymreig megis Gladstone a Lloyd George. Rhoddwyd cryn bwyslais ar ddiwygiadau rhyddfrydol er lles y gymdeithas, ac arweiniodd hyn at sefydlu'r Wladwriaeth les yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Yn 1920, fodd bynnag, goddiweddwyd y Rhyddfrydwyr gan y Blaid Lafur, fel y prif fygythiad i'r Blaid Geidwadol. Gwahanwyd y Rhyddfrydwyr a'r Llafurwyr ymhellach yn 1981 oherwydd i'r Blaid Lafur droi fwyfwy i'r asgell chwith.[7][8]
Etholwyd Nick Clegg yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007 ac yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, cipiwyd 57 o'r seddi ganddynt, a nhw felly oedd y drydedd blaid fwyaf o ran nifer yr Aelodau Seneddol. Roedd gan y Ceidwadwyr 307 a Llafur 258 AS, a gan nad oedd gan yr un blaid y mwyafrif clir, ymunodd y Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r Ceidwadwyr i ffurfio cynghrair a phenodwyd Clegg yn Ddirprwy Brif Weinidog y DU.[9] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015, lleihawyd nifer ei haelodau Seneddol i 8 ac ymddiswyddodd Clegg fel Arweinydd ei blaid.[10]
Ffurfio
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol ar 3 Mawrth 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol gyda'r Democratiaid Cymdeithasol, ond daeth i gytundeb gyda'i gilydd saith mlynedd ynghynt pan ffurfiwyd y 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr' (SDP–Liberal Alliance).[1] Tarddiad y Blaid Ryddfrydol oedd y Chwigiaid, y Radicaliaid a'r Peelites (yn 1859). Roedd yr SDP cryn dipyn yn iau - fe'i crewyd yn 1982 gan gyn-aelodau seneddol y Blaid Lafur, gydag ambell Geidwadwr a newidiodd ei liw.[11]
Sylweddolodd yr SDP a'r Rhyddfrydwyr - yn gam neu'n gymwys - nad oedd lle i bedair plaid yng ngwleidyddiaeth gwledydd Prydain, a daethpwyd i gytundeb (neu 'Gynghrair') na fyddent yn sefyll yn erbyn ei gilydd mewn etholiad. Arweinyddion y Gynghrair oedd David Steel o'r Rhyddfrydwyr a Roy Jenkins ar ran yr SDP; cyn hir, daeth David Owen i gymryd lle Jenkins.[11] Roedd gan y ddwy blaid eu polisiau eu hunain, ond cyflwynwyd un maniffesto ar gyfer Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987.
Arweinwyr
[golygu | golygu cod]- Paddy Ashdown (1988–1999)
- Charles Kennedy (1999–2006)
- Menzies Campbell (2006–2007)
- Nick Clegg (2007–2015)
- Tim Farron (2015–2017)
- Vince Cable (2017-2019)
- Jo Swinson (22 Gorffennaf 2019 – 13 Rhagfyr 2019)
- Ed Davey (27 Awst 2020 – presennol)
Canlyniadau mewn Etholiadau Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol |
Enw | Arweinydd | Cyfran o'r bleidlais |
Seddi | Cyfran o'r seddi |
Ffynhonnell |
1983 | Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr | David Steel | 25.4% | 23 / 650
|
3.5% | [12] |
1987 | Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr | 22.6% | 22 / 650
|
3.4% | [12] | |
1992 | Democratiaid Rhyddfrydol | Paddy Ashdown | 17.8% | 20 / 651
|
3% | [13] |
1997 | Democratiaid Rhyddfrydol | 16.8% | 46 / 659
|
7% | [13] | |
2001 | Democratiaid Rhyddfrydol | Charles Kennedy | 18.3% | 52 / 659
|
8% | [14] |
2005 | Democratiaid Rhyddfrydol | 22.0% | 62 / 646
|
10% | [15] | |
2010 | Democratiaid Rhyddfrydol | Nick Clegg | 23.0% | 57 / 650
|
9% | [16] |
2015 | Democratiaid Rhyddfrydol | 7.9% | 8 / 650
|
1.2% | [17] | |
2017 | Democratiaid Rhyddfrydol | Tim Farron | 7.4% | 12 / 650
|
1.8% | [18] |
2019 | Democratiaid Rhyddfrydol | Jo Swinson | 11.6% | 11 / 650
|
1.7% | [19] |
2024 | Democratiaid Rhyddfrydol | Ed Davey | 12.2% | 72 / 650
|
11.1% | [20] |
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Aelodaeth |
---|---|
2001 | 73,276[21] |
2002 | 71,636[21] |
2003 | 73,305[22] |
2004 | 72,721[23] |
2005 | 72,031[24] |
2006 | 68,743[25] |
2007 | 65,400[26] |
2008 | 59,810[27] |
2009 | 58,768[28] |
2010 | 65,038[29] |
2011 | 48,934[30] |
2012 | 42,501[31] |
2013 | 43,451[32] |
2015 | 61,456[33] |
Gwelir hefyd
[golygu | golygu cod]Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - y Blaid yng Nghymru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Robert Ingham and Duncan Brack, Peace, Reform and Liberation – A History of Liberal Politics in Britain 1679–2011, Biteback Publishing, 2011.
- ↑ "Revealed: The Liberal Democrats' new HQ". Libdemvoice.org. 21 Mai 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-24. Cyrchwyd 26 Mawrth 2013.
- ↑ "Liberal Democrats website". libdems.org.uk. 29 April 2023. Cyrchwyd 12 July 2023.
- ↑ http://www.economist.com/news/britain/21645809-survive-party-government-lib-dems-must-hold-south-west-england-they-probably
- ↑ http://www.bbc.co.uk/programmes/p02ps438
- ↑ http://www.newstatesman.com/politics/2014/10/why-being-centrist-party-hasnt-helped-lib-dems
- ↑ Mike Finn (PSA Symposium) (Ebrill 2014). The Coalition and the Liberal Democrats: The Radical Centre in action?. Political Studies Association (forthcoming).
- ↑ Mark Satin (2004). Radical Middle: The Politics We Need Now. Westview Press and Basic Books. ISBN 978-0-8133-4190-3.
- ↑ "David Cameron is UK's new prime minister". bbc.co.uk. 12 Mai 2010. Cyrchwyd 12 Mai 2010.
- ↑ "Election results: Nick Clegg resigns after Lib Dem losses". BBC News. 8 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-24. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ 11.0 11.1 "A concise history of the Liberal Parties, SDP and Liberal Democrats". Liberal Democrat History Group. 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-29. Cyrchwyd 2015-06-24. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ 12.0 12.1 "Statistics 1980s". Electoral Reform Society. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-05. Cyrchwyd 13 April 2008.
- ↑ 13.0 13.1 "Statistics 1990s". Electoral Reform Society. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-05. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help); Italic or bold markup not allowed in:|publisher=
(help) - ↑ "Results & Constituencies". BBC. 2001. Cyrchwyd 29 Mawrth 2008.
- ↑ Kettle, Martin (26 Ebrill 2005). "Kennedy can still exploit this perfect political storm". The Guardian. Llundain. Cyrchwyd 21 Mawrth 2008.
- ↑ Election 2010 United Kingdom – National Results BBC News
- ↑ "20 things you Mai have missed from the election". BBC News. 8 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-10. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help); Italic or bold markup not allowed in:|publisher=
(help) - ↑ "Results of the 2017 General Election". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-04.
- ↑ "Results of the 2019 General Election". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-04.
- ↑ "Results of the 2024 General Election" (yn Saesneg). BBC News. Cyrchwyd 3 August 2024.
- ↑ 21.0 21.1 "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2002" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen farw]
- ↑ "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2003" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen farw]
- ↑ "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2004" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen farw]
- ↑ "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2005" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen farw]
- ↑ "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2006" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen farw]
- ↑ "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2007" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen farw]
- ↑ "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2008" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen farw]
- ↑ "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2009" (PDF). The Liberal Democrats. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2010.[dolen farw]
- ↑ Eaton, George (25 Gorffennaf 2013). "Lib Dem money woes grow as party membership hits new low". New Statesman. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-24. Cyrchwyd 15 Mai 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help); Italic or bold markup not allowed in:|publisher=
(help) - ↑ "The Liberal Democrats (The Federal Party) – Reports and Financial Statements – Year Ended 31 December 2011". The Liberal Democrats. t. 27. Cyrchwyd 2 Awst 2012.
- ↑ Titley, Simon (19 Ionawr 2013). "Liberator's blog: Has the fall in party membership finally ended?". Liberator. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2013.
- ↑ Rathe, Austin (8 Ionawr 2014). "Liberal Democrats end year with historic membership growth – but we must keep up the good work". Liberal Democrat Voice. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-30. Cyrchwyd 2015-06-24.
- ↑ http://www.libdems.org.uk/membership_figures
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Archifwyd 2015-09-19 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Democratiaid Rhyddfrydol y DU
|