Delwyn Williams

Oddi ar Wicipedia
Delwyn Williams
Ganwyd1 Tachwedd 1938 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 48fed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Gwleidydd a chyfreithiwr yw David John Delwyn Williams (ganwyd 1 Tachwedd 1938), a fu'n Aelod Seneddol Ceidwadol dros Faldwyn rhwng 1979 ac 1983.

Bywyd Cynnar & Addysg[golygu | golygu cod]

Addysgwyd Williams yn Ysgol Uwchradd y Trallwng, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Safodd Williams yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Ceidwadol am y tro cyntaf ym Maldwyn yn Etholiad Cyffredinol 1970. Llwyddodd ennill 7,891 pleidlais (twf o +2.3% ar ganlyniad Ceidwadol 1966) ond trechwyd gan Emlyn Hooson- a fu'n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros yr etholaeth ers is-etholiad 1962.

Safodd yn yr etholaeth eto fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn Etholiad Cyffredinol 1979, gan lwyddo i drechu Hooson dro hyn gyda mwyafrif o 1,593 pleidlais. Dyma'r tro cyntaf am gwta canrif i'r etholaeth adael meddiant y Blaid Ryddfrydol.[1] Ceisiodd Williams amddiffyn ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 1983, ond collodd i'r ymgeisydd Rhyddfrydol, Alex Carlile o 668 pleidlais.

Yn 2007, safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd mewn is-etholiad yn ward Gungrog, y Trallwng ar gyfer Cyngor Sir Powys.

Yn ystod 2015 bu ddatgan ei gefnogaeth i ymgyrch Des Parkinson- yr ymgeisydd UKIP yn etholaeth Maldwyn ar gyfer Etholiad Cyffredinol y flwyddyn yno, gan feirniadu nifer o bolisiau a phenderfyniadau arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron.[2]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Emlyn Hooson
Aelod Seneddol dros Faldwyn
19791983
Olynydd:
Alex Carlile

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Derec Llwyd Morgan (gol.). Emlyn Hooson: Essays and Reminiscences. (Llandysul: Gomer: 2014)
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2016-01-02.