Demograffeg Ewrop

Oddi ar Wicipedia
Ewrop yn ôl y diffiniad arferol

Demograffeg Ewrop yw hanes niferoedd a nodweddion pobloedd (demograffeg) cyfandir Ewrop. Yn 2005, amcangyfrifwyd gan y Cenhedloedd Unedig fod poblogaeth Ewrop yn 728 miliwn, ychydig dros un rhan o naw o boblogaeth y byd. Ganrif yn ôl, roedd poblogaeth Ewrop bron yn chwarter poblogaeth y byd, ond mae poblogaeth gwledydd tu allan i Ewrop wedi tyfu'n gyflymach yn ystod y cyfnod yma.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, disgwylir i'r boblogaeth leihau dros y blynyddoedd nesaf:

Blwyddyn Poblogaeth mewn miloedd[1]
1950 547,405
1960 604,406
1970 655,862
1980 692,435
1990 721,390
2000 728,463
2005 728,389
2010 725,786
2020 714,959
2030 698,140
2040 677,191
2050 653,323

Y gwledydd mwyaf o ran poblogaeth yw yr Almaen (83,251,851), y Deyrnas Unedig (61,100,835), Ffrainc (59,765,983), yr Eidal (58,751,711). Mae poblogaeth Rwsia yn 142,200,000, a phoblogaeth Twrci yn 70,586,256, ond dim ond rhan o'r gwledydd hyn sydd yn Ewrop, a'r gweddill yn Asia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw UNPP 2004