Yma o Hyd (cân)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rhwng Hwyl A Thaith Ac Yma O Hyd, album cover.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1983 Edit this on Wikidata
Genrecanu gwerin Edit this on Wikidata
CyfansoddwrDafydd Iwan Edit this on Wikidata
Yma o Hyd gan Dafydd Iwan
Ceiniog aur o Magnus Maximus, ymerawdwr y Rhufeiniaid a aeth o Gymru yn 383AD.

Cân wladgarol gan Dafydd Iwan yw "Yma o Hyd" a ysgrifennwyd yn 1981.

Symbolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhyddhawyd "Yma O Hyd" yn 1983 yn ystod taith 'Taith Macsen' gan Dafydd Iwan ac Ar Log i "godi'r ysbryd, i atgoffa pobl ein bod ni'n dal i siarad Cymraeg yn groes i bob disgwyl, i ddangos ein bod ni yma o hyd".[1]

Dywedir i'r hanesydd Cymreig ac Aelod Seneddol Plaid Cymru Gwynfor Evans roi'r syniad i Dafydd Iwan am y gân. [2] Disgrifia Dafydd Iwan hi fel "cân bositif iawn" sy'n dathlu "goroesiad yr iaith er gweatha pob drwg, a goroesiad cenedl". [3] Mae'r gân yn dyfynnu goroesiad Cymru a'r iaith Gymraeg am dros 1,600 o flynyddoedd, ers i'r swyddog Rhufeinig, Magnus Maximus adael Cymru ac ynys Prydain i ddod yn Ymerawdwr dros yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn 383 OC. Dyma'r flwyddyn felly, y ganwyd Cymru fel gwlad modern.[4]

Awgrymodd Martin Johnes, athro hanes ym Mhrifysgol Abertawe fod y gân yn anthem i “Genedlaetholwyr Cymreig, diwylliant Cymraeg eu hiaith a dosbarth gweithiol diwydiannol Cymru.” “Atodwyd Cymru yn wleidyddol yn 1280; nid ydym wedi cael uned wleidiaeth gwbl hunanlywodraethol ers hynny.” Gwaharddwyd yr iaith gan Harri VIII o Loegr ym 1536 a barhaodd dros 400 mlynedd, hyd 1942, ac felly “mae goroesiad hunaniaeth Gymreig yn eithaf rhyfeddol".[5]

Fel anthem[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwynfor Evans, cyn arweinydd Plaid Cymru.

Awgrymwyd fod y gân wedi chwarae rhan “ddim yn ansylweddol” wrth godi ysbryd cenedlaetholwyr Cymreig yn ystod cyfnod Margaret Thatcher fel Prif Weinidog y DU yn yr 1980au.[6]

Mae fersiwn gwreiddiol y gân yn cyfeirio at Thatcher, "Er gweatha hen Fagi a'i chriw".[7] Yn dilyn gorchymyn Thatcher i gau rhan fwyaf o byllau glo Cymru, roedd llai na 40% o gartrefi Cymru yn cynnwys rhywun yn gweitho llawn amser fel pennaeth y teulu. Erbyn 1986 "byddai dwy ran o dair o lowyr Cymru yn colli eu swyddi".[8][9]

Ysbrydolodd y gân adfywiad yn y gefnogaeth i addysg cyfrwng Cymraeg ac (ymhlith ffactorau eraill) cyfrannodd at gyflawni Deddf Diwygio Addysg 1988. Cyfrannodd y gân hefyd at gefnogaeth i’r Gymraeg, sef Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a osododd Y Gymraeg yn gyfartal â'r Saesneg yng Nghymru am y tro cyntaf yn hanes y DU. Yn ogystal, cyfrannodd y gân at gefnogaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (a ailenwyd yn Senedd yn ddiweddarach) ac ym 1998 pleidleisiodd etholwyr Cymru o blaid datganoli Cymru.[10]

Yn y presennol, mae'r gân ac y gytgan yn enwedig yn adnabyddus i'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw neu wedi byw yng Nghymru: “Er gwaethaf pawb a phopeth / Ry'n ni yma o hyd”. [11] Ym mis Ionawr 2020 cyrhaeddodd y gân rif un yn siart iTunes y DU, yn dilyn cefnogaeth rhai o grŵp annibyniaeth Cymru, YesCymru. Roedd yr ymgyrch yn adlewyrchu llwyddiant cân Wolfe Tones "Come Out, Ye Black and Tans" yn gynharach y mis hwnnw.[12]

Mae’r gân yn cael ei chanu’n aml gan gefnogwyr tîm rygbi’r Scarlets, C.P.D. Wrecsam a C.P.D .Dinas Caerdydd.[13]

Mae’r gân hefyd wedi dod yn anthem answyddogol i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. [14] Canwyd y gan yn wreiddiol gan gefnogwyr yn ystod gemau pêl-droed Cymru, a chafodd y gân wedyn ei mabwysiadu fel anthem gan chwaraewyr Cymru eu hunain. Gofynnodd y chwaraewyr i Dafydd Iwan berfformio’r gân yn fyw cyn cic gyntaf gêm olaf ond un ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd FIFA yn erbyn Awstria, gan ennill 2-1.[15] Cafodd y gân ei chanu’n fyw hefyd gan Dafydd Iwan yng ngêm olaf yr ymgyrch a welodd Gymru’n cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf ers 1958. Fe wnaeth Gareth Bale, capten Cymru arwain canu y chwaraewyr gyda Dafydd Iwan ar ol y chwiban olaf. [16][17] Dywedodd hyfforddwr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Rob Page am y gân, "Yma o Hyd, mae hynny'n anthem enfawr i ni nawr. Dechreuodd Chris Gunter hi. Fe wnaethon ni ei chwarae bob dydd cyn hyfforddi, ac mae hynny'n rhywbeth sydd gennym ni nawr fel ein hanthem. Mae'n rhan fawr o'r hyn rydyn ni amdano. Mae'r gân yn deimladwy iawn i'r hyn rydyn ni i gyd yn ei gylch. Gallwn ni i gyd uniaethu â hi. Rydyn ni i gyd yn Gymry angerddol sy'n caru ein gwlad." [18] Cyrrhaeddod y gân Rhif 1 yn siartiau iTunes unwaith eto ym Mehefin 2022 yn dilyn ymgyrch gan gefnogwyr pêl-droed Cymru.[19]

Fersiynnau[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe recordiwyd y fersiwn cyntaf o'r gân gan Dafydd Iwan, y cyfansoddwr.

Mae Rhydian Roberts ymhlith y rhai eraill sydd wedi perfformio a recordio'r gân.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Yma o Hyd: the defiant Welsh folk song that's been 1,600 years in the making". the Guardian (yn Saesneg). 2022-06-02. Cyrchwyd 2022-06-05.
  2. Dr E. Wyn James (2005). "Painting the World Green: Dafydd Iwan and the Welsh Protest Ballad". Folk Music Journal 8 (5): 594–618. http://www.cardiff.ac.uk/special-collections/subject-guides/welsh-ballads/dafydd-iwan.
  3. "Jeremy Vine On 5's tweet - "Yma o Hyd, a Welsh-language single released in 1983, has hit the top of the charts after football fans started singing it at Welsh international games. The singer, songwriter Dafydd Iwan, tells us what it's like to top the charts and why it's is so special. #JeremyVine " - Trendsmap". www.trendsmap.com. Cyrchwyd 2022-06-14.
  4. "Yma o Hyd: the defiant Welsh folk song that's been 1,600 years in the making". the Guardian (yn Saesneg). 2022-06-02. Cyrchwyd 2022-06-14.
  5. "Yma o Hyd: the defiant Welsh folk song that's been 1,600 years in the making". the Guardian (yn Saesneg). 2022-06-02. Cyrchwyd 2022-06-14.
  6. Dr E. Wyn James (2005). "Painting the World Green: Dafydd Iwan and the Welsh Protest Ballad". Folk Music Journal 8 (5): 594–618. http://www.cardiff.ac.uk/special-collections/subject-guides/welsh-ballads/dafydd-iwan.
  7. "Yma o Hyd: the defiant Welsh folk song that's been 1,600 years in the making". the Guardian (yn Saesneg). 2022-06-02. Cyrchwyd 2022-06-14.
  8. "Yma o Hyd: the defiant Welsh folk song that's been 1,600 years in the making". the Guardian (yn Saesneg). 2022-06-02. Cyrchwyd 2022-06-14.
  9. Shipton, Martin (2014-03-03). "Margaret Thatcher 'lied to miners about jobs and the extent of her plans to close pits'". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-14.
  10. Dr E. Wyn James (2005). "Painting the World Green: Dafydd Iwan and the Welsh Protest Ballad". Folk Music Journal 8 (5): 594–618. http://www.cardiff.ac.uk/special-collections/subject-guides/welsh-ballads/dafydd-iwan.
  11. "Yma o Hyd: the defiant Welsh folk song that's been 1,600 years in the making". the Guardian (yn Saesneg). 2022-06-02. Cyrchwyd 2022-06-14.
  12. Stephens, Lydia (12 January 2020). "A Welsh folk legend is outselling Stormzy in the iTunes charts". Walesonline.co.uk. Cyrchwyd 12 January 2020.
  13. Coleman, Tom (2022-03-29). "Yma o Hyd full lyrics, meaning and why Wales football fans started singing it". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-14.
  14. "Yma o Hyd: the defiant Welsh folk song that's been 1,600 years in the making". the Guardian (yn Saesneg). 2022-06-02. Cyrchwyd 2022-06-05.
  15. "Yma o Hyd: the defiant Welsh folk song that's been 1,600 years in the making". the Guardian (yn Saesneg). 2022-06-02. Cyrchwyd 2022-06-14.
  16. Mitchelmore, Ian (2022-03-28). "The player behind Dafydd Iwan's iconic Yma o Hyd rendition revealed". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-05.
  17. Williams, Glen (2022-06-05). "Gareth Bale leads brilliant rendition of Yma o Hyd after Wales beat Ukraine". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-05.
  18. Coleman, Tom (2022-03-29). "Yma o Hyd full lyrics, meaning and why Wales football fans started singing it". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-14.
  19. https://nation.cymru/culture/dafydd-iwan-hits-the-number-one-spot-with-yma-o-hyd/