Lauren Price
Lauren Price | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mehefin 1994 Casnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | paffiwr, kickboxer, pêl-droediwr |
Taldra | 167 centimetr |
Pwysau | 70 cilogram |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru, C.P.D. Merched Dinas Caerdydd |
Safle | amddiffynnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Mae Lauren Louise Price (ganwyd 25 Mehefin 1994) yn focsiwr amatur o Gymru, ac yn gyn-gic-focsiwr a phêl-droediwr. [1] Cystadlodd dros Gymru yn y dosbarth pwysau canol y menywod yng Ngemau'r Gymanwlad 2014, lle enillodd fedal efydd. Hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal focsio Gemau'r Gymanwlad. Ragorodd hi ar y cyflawniad hwn trwy ennill aur yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn yr Arfordir Aur, Awstralia. Mae hi'n pencampwraig Olympaidd ers Tokyo yn 2021.[2] Ar ôl curo’r bocsiwr o’r Iseldiroedd Nouchka Fontijn yn y rownd gynderfynol pwysau canol aeth ymlaen i ennill y fedal aur yn erbyn Li Qian o China.
Roedd hi'n chwarae pêl-droed gyda Dinas Caerdydd, gan ennill tymor agoriadol Cynghrair Pêl-droed Merched Premier Cymru yn 2013. Ar ôl bod yn gapten ar Gymru ar lefel dan-19, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru yn 2012.
Cafodd Price ei geni yng Nghasnewydd, ond cafodd ei magu yng Nghaerffili, gan ei thaid a’i nain.[3] Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Heolddu, Bargod.[4] Dangosodd ddiddordeb mawr mewn sawl camp, gan gymryd pêl-droed, pêl-rwyd a bocsio cic yn ddeg oed, yr olaf ar ôl anogaeth gan ei thad-cu. [5] Fel cic-focsiwr, enillodd Price fedal arian mewn digwyddiad ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Athen yn 2007 yn 13 oed, gan gystadlu yn erbyn gwrthwynebwyr ddwywaith ei hoedran,[4] a daeth y cystadleuydd ieuengaf erioed ym Mhencampwriaethau Prydain. [6] Aeth ymlaen i fod yn bencampwr pedair gwaith y byd ac yn bencampwr Ewropeaidd chwe-amser yn y gamp ac yn ddiweddarach cystadlodd yn Taekwondo . [3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Penman, Andrew (23 November 2018). "Gwent's Lauren Price wins world boxing bronze in India". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Live Tokyo 2020, boxing live: GB's Lauren Price wins gold medal fight against Li Qian". Telegraph. 8 Awst 2021.
- ↑ 3.0 3.1 Webb, Alex (28 Gorffennaf 2014). "Glasgow 2014: Footballer Lauren Price swaps boots for boxing". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Hydref 2014.
- ↑ 4.0 4.1 "Kickboxing: Lauren is a hit with teachers". WalesOnline (yn Saesneg). Media Wales. 28 Mehefin 2007. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2019.
- ↑ White, Jim (15 Tachwedd 2018). "How Olympic hero Nicola Adams inspired next generation of British women boxers – 'She is the person who showed us all it's possible'". The Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Lauren's a Sporting Role Model". WalesOnline (yn Saesneg). Media Wales. 22 Tachwedd 2007. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2019.