Llychlynwyr yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Y Llychlynwyr yng Nghymru)
Jump to navigation Jump to search
Llong Gokstad, llong o'r cyfnod Llychlynnaidd yn Oslo.

Mae cyfnod y Llychlynwyr yng Nghymru yn ymestyn o'r 9g hyd y 11g. Yn ystod y cyfnod yma, cafodd y Llychlynwyr ddylanwad mawr ar hanes Cymru, yn bennaf oherwydd eu hymosodiadau rheolaidd ar ardaloedd ger yr arfordir. Yn wahanol i lawer o wledydd gogledd-orllewin Ewrop, nid ymddengys iddynt ymsefydlu yng Nghymru ar raddfa fawr, er bod tystiolaeth o safleoedd megis Llanbedrgoch ar Ynys Môn yn awgrymu y gallai fod ymsefydlu ar raddfa fechan.

Ymosodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofnodwyd ymosodiadau Llychlynnaidd ar Brydain ac Iwerddon o ddiwedd yr 8g ymlaen. Yn 852 y ceir y cofnod cyntaf am ymosodiad ar Gymru. Bu mwy o ymosodiadau yn ystod teyrnasiad Rhodri Mawr, gyda'r Daniaid yn bennaf gyfrifol. Yn ôl y croniclau buont yn anrheithio Môn yn 854. Yn 856 enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid ym Mrwydr Llandudno gan ladd eu harweinydd Gorm (a elwir weithiau yn Horm). Mae dwy gerdd gan Sedulius Scotus wedi ei hysgrifennu yn llys Siarl Foel, brenin y Ffranciaid Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y Llychlynwyr. Cafodd Rhodri fuddugoliaeth arall yn erbyn y Daniaid ym Mrwydr Parciau yn 872.

Cyrhaeddodd ymosodiadau'r Llychlynwyr ar Gymru uchafbwynt yn y cyfnod rhwng 950 a 1000.Dywedir i Godfrey Haroldson gymryd dwy fil o gaethion o Ynys Môn yn 987, a thalodd brenin Gwynedd, Maredudd ab Owain, swm mawr i'r Daniaid i brynu ei bobl yn ôl o gaethiwed. Dioddefodd Tyddewi ymosodiadau rheolaidd; cofnodir i'r Llychlynwyr ladd Morgeneu, Esgob Tyddewi, yn 999 a'r Esgob Abraham yn 1080.

Cydweithrediad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd hefyd gryn dipyn o gydweithredu rhwng y Llychlynwyr a'r Cymry ar adegau. Roedd Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd o dras Lychlynnaidd ar ochr ei fam. Pan fu raid i'w dad, Cynan ap Iago, ffoi o Gymru, aeth i Iwerddon at Ddaniaid Dulyn, lle priododd Ragnell, merch Olaf Arnaid, o deulu brenhinol Daniaid Dulyn. Yn ystod ei ymdrechion i ennill rheolaeth dros Wynedd cafodd Gruffudd lawer o gymorth oddi wrth Ddaniaid Dulyn. Wedi i Hywel ab Edwin, brenin Deheubarth gael ei yrru o'i deyrnas gan Gruffudd ap Llywelyn yn 1042 neu 1043, ond dychwelodd yn 1044 gyda byddin yn cynnwys llawer o Ddaniaid, ond gorchfygodd Gruffudd hwy mewn brwydr ger aber Afon Tywi a lladdwyd Hywel.

Er i'r Llychlynwyr ymsefydlu ar raddfa sylweddol yn Iwerddon a Lloegr, credir na lwyddasant erioed i ymsefydlu ar raddfa fawr yng Nghymru. Yn 1994, gwnaed darganfyddiad diddorol yn Llanbedrgoch ger arfordir dwyreiniol Ynys Môn, sef olion sefydliad yn deillio o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r 10g. Mae cloddio archeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.

Enwau lleoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir enwau o darddiad Llychlynnaidd ar nifer o ynysoedd a nodweddion eraill o amgylch arfordir Cymru, er enghraifft Ynys Skokholm ac Ynys Skomer. Yn aml, yr enwau yma yw'r rhai a ystyrir yn awr yn enwau "Saesneg", er enghraifft Anglesey am Ynys Môn, Swansea am Abertawe a nifer eraill.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Redknap, Mark Y Llychlynwyr yng Nghymru: ymchwil archeolegol (Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, 2000) ISBN 072000487x