Cynan ab Iago

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cynan ap Iago)
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Cynan ab Iago (fl. tua 1040 - 1060) yn fab i Iago ab Idwal ap Meurig (974? — 1039), brenin Gwynedd, ac yn dad Gruffudd ap Cynan, a ddaeth yn ei dro yn frenin Gwynedd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth Iago, oedd o linach Idwal Foel, yn frenin ar Wynedd ar farwolaeth Llywelyn ap Seisyll yn 1023. Fodd bynnag, lladdwyd ef gan ei ŵyr ei hun yn 1039, a dilynwyd ef gan fab Llywelyn ap Seisyll, Gruffudd ap Llywelyn. Gorfodwyd Cynan ab Iago i ffoi i Iwerddon.

Yn Iwerddon, priododd Cynan y dywysoges Lychlynnaidd Ragnell (neu Ragnallt), merch i Olaf Arnaid (bu farw 1012), un o feibion Dubhgall, brenin Dulyn. Yn Hanes Gruffudd ap Cynan wrth drafod achau Gruffudd, dywedir:

Ei dad oedd Cynan, frenin Gwynedd, a'i fam oedd Ragnell ferch Afloedd (Olaf Arnaid), frenin dinas Dulyn a phumed ran Iwerddon (orgraff ddiweddar).

Fodd bynnag, nid oes cofnod arall i Gynan deyrnasu ar Wynedd. Yn ôl Historie of Cambria (1584) gan David Powel, ceisiodd ddwywaith i ennill y deyrnas gyda chymorth llynges o Ddulyn. Yn 1041, llwyddodd i gymeryd Gruffudd ap Llywelyn yn garcharor, ond gallodd gwŷr Gruffudd ei ryddhau yn fuan. Yn 1052, gwasgarwyd ei longau gan storm fawr. Lladdwyd Gruffudd ap Llywelyn gan ei ŵyr ei hun yn 1063 yn ôl y rhan fwyaf o ffynonellau, ond dywed Brut Wlster mai Cynan ab Iago a'i lladdodd yn 1064.

Gellir casglu o Hanes Gruffudd ap Cynan fod Cynan wedi marw pan oedd Gruffudd yn ieuanc. Dywedir i'w fam egluro iddo mai ef oedd gwir etifedd teyrnas Gwynedd, ond nid oes sôn am ei dad yn y cyswllt yma. Pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan i hawlio teyrnas Gwynedd yn ddiweddarach, cyfeirid ato fel "wyr Iago" yn hytrach na "Mab Cynan", sy'n awgrymu nad oedd Cynan yn adnabyddus yng Nghymru .