Olaf Sigtryggsson
Olaf Sigtryggsson | |
---|---|
Ganwyd | 11 g |
Bu farw | 1034 o lladdwyd mewn brwydr Lloegr |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Sigtrygg Farf Sidan |
Mam | Sláine ingen Briain |
Priod | Máelcorce Ingen Dúnlaing |
Plant | Ragnell |
Llinach | Uí Ímair |
Aelod o deulu brenhinol Daniaid Dulyn oedd Olaf Sigtryggsson, hefyd Olaf Arnaid neu Olaf o Ddulyn (bu farw 1034). Cyfeirir ato fel Afloedd yn Historia Gruffud vab Kenan, ac Amlaíb mac Sitriuc mewn Gwyddeleg. Roedd yn daid i Gruffudd ap Cynan.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd Olaf yn fab i frenin Daniaid Dulyn, Sigtrygg Farf Sidan. Dywedir iddo ymgyrchu yn erbyn Gwynedd, ac ymddengys iddo feddiannu rhan o'r deyrnas am gyfnod tua'r flwyddyn 1000, gan adeiladu castell a elwid yn "Castell Bon y Dom" neu "Castell Olaf". Nid oes sicrwydd ymhle yr oedd y castell yma; awgrymwyd Castell Bryn Gwyn ger Brynsiencyn neu leoliad gerllaw y Felinheli.
Llofruddiwyd Olaf yn Lloegr yn 1034, pan oedd ar bererindod i Rufain. Priododd ei ferch, Ragnell, a Cynan ap Iago o linach Aberffraw, a chawsant un mab, Gruffudd ap Cynan. Yn ôl Historia Gruffud vab Kenan:
- Bonhed gruffud o barth y vam. gruffud vrenhin. m. raonell verch avloed vrenhin dinas dulyn a phymhetran ywerdon ac enys vanaw ... a mon a gwyned ene lle y gwnaeth avloed castell cadarn ae dom ae fos etwa yn amlwc ac aelwit castell avoled vrenhin. Yg kymraec hagen y gelwit bon y dom. Avloed enteu oed vab y sutric vrenhin ...[1]
Mewm gwirionedd, bu Olaf farw cyn ei dad, ac ni fu'n frenin Dulyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ D. Simon Evans, Historia Gruffud vab Kenan (Gwasg Prifysgol Cymru).