Ragnell

Oddi ar Wicipedia

Roedd y dywysoges Lychlynnaidd Ragnell (neu Ragnallt neu Ragnailt) yn ferch i Olaf Arnaid (bu farw 1012), un o feibion Dubhgall, brenin Dulyn, yn wraig i Gynan ap Iago o Wynedd ac yn fam i Ruffudd ap Cynan, brenin teyrnas Gwynedd, yn ôl traddodiad.

Tystiolaeth Hanes Gruffudd ap Cynan[golygu | golygu cod]

Ychydig sy'n hysbys amdani. Cyfeirir ati yn Hanes Gruffudd ap Cynan yn achau'r tywysog:

Ei dad oedd Cynan, frenin Gwynedd, a'i fam oedd Ragnell ferch Afloedd (Olaf Arnaid), frenin dinas Dulyn a phumed ran Iwerddon (orgraff ddiweddar).

Nid oes cadarnhad o hyn mewn unrhyw ffynhonnell arall ac mae rhai haneswyr yn amheus iawn o'r gosodiad.

Tystiolaeth Wyddelig[golygu | golygu cod]

Cyfeirir at ferch o'r enw Ragnell yn y testun Hen Wyddeleg Bansenchas (neu Ban-shenchus), sy'n rhestru gwragedd nodedig y byd. Mewn fersiwn mydryddol diweddarach dywedir bod Ragnailt imgen Amlaib arnaid yn fam i Murchertach.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]