Brynsiencyn

Oddi ar Wicipedia
Brynsiencyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.18012°N 4.270561°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH484670 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Llanidan, Ynys Môn, yw Brynsiencyn[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ne-orllewin yr ynys ar ffordd yr A4080 rhwng Llanfairpwllgwyngyll a Niwbwrch. Mae'r enw'n gyfuniad o'r gair bryn a'r enw personol Siencyn ac mae'r cyfeiriad cynharaf at yr enw yn dyddio i 1587 (Bryn sienkyn).[3] Tystiodd perchennog tyddyn Bryn sienkyn mai Mallt ferch Siencyn oedd enw ei nain.[3] Wrth gyrraedd y pentref o gyfeiriad y dwyrain, fe welwch Eglwys Sant Nidan a godwyd yn 1841 gan ddisodli hen eglwys plwyf Llanidan.[4] O ganol y pentref, mae ffordd yn arwain i lawr at Afon Menai, lle mae Sw Môr Môn a Halen Môn.

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Gellir gweld nifer o hynafiaethau gerllaw'r pentref, yn cynnwys siambr gladdu Bodowyr, Castell Bryn Gwyn a Chaer Lêb.

Pobl o Frynsiencyn[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Rhagfyr 2021
  3. 3.0 3.1 Owen, Hywel Wyn; Morgan, Richard (2007). Dictionary of the Place Names of Wales. Gomer. ISBN 9781843239017.
  4. "Geograph".
Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato