Tregele

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ar gwr Tregele i gyfeiriad Wylfa.

Pentref bychan ar Ynys Môn yw Tregele. Gorwedd yng ngogledd yr ynys ar lôn yr A5025, tua thri chwarter milltir i'r de-orllewin o bentref Cemaes.

Ceir lôn yn rhedeg i lawr i Fae Cemlyn ar yr arfordir i'r gogledd-orllewin. Hanner milltir i'r de o'r pentref ceir cromlech ar Foel Fawr, ar y ffordd i Llanfechell.

Mae atomfa'r Wylfa yn gorwedd cwta hanner milltir i'r gogledd o'r pentref, gyda gwarchodfa natur Cemlyn gerllaw.


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato