Rhostrehwfa

Oddi ar Wicipedia
Rhostrehwfa
Cefncwmwd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2467°N 4.3405°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llangristiolus, Ynys Môn, yw Rhostrehwfa[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r de-orllewin o dref Llangefni a milltir i'r gogledd o Langristiolus. Gorwedd Rhostrehwfa ar hyd lôn y B4422 o'i chyffordd â'r A55.

Mae'r enw yn hen ac yn tarddu o enw'r dreflan ganoloesol, Tre Hwfa. Roedd Hwfa yn bennaeth lleol yn yr Oesoedd Canol ac roedd nifer o deuluoedd mawr Môn yn ddisgynyddion iddo.

Capel Pisgah (1875), Rhostrehwfa

Hwfa Môn[golygu | golygu cod]

Yn Rhostrehwfa y magwyd y bardd Rowland Williams, sef Hwfa Môn (1823-1905), un o ffigyrau cyhoeddus mwyaf adnabyddus ei ddydd. Bu'n archdderwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru o 1895 hyd ei farwolaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato