Pentre Berw

Oddi ar Wicipedia
Pentre Berw
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2272°N 4.2918°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH476729 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Llanfihangel Ysgeifiog, Ynys Môn, yw Pentre Berw[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn rhan ddeheuol yr ynys, ar briffordd yr A5, ychydig i'r gorllewin o'r Gaerwen a gerllaw Afon Cefni, ar ymylon Cors Ddyga.

Mae "berw" yn ffurf ar y gair "berwr" (cress). Berw oedd enw'r dref ganoloesol (cymuned o ffermydd a thai ar wasgar); tyfodd pentref ar y groesffordd a gafodd yr enw 'Pentre Berw'.[3]

Yn y pentref mae gwesty yr Holland Arms a chanolfan garddio fawr o'r un enw. Roedd Rheilffordd Canol Môn yn gadael y prif reilffordd i Gaergybi gerllaw'r pentref. Ar un adeg yr oedd diwydiant glo bychan yn yr ardal, a gellir gweld rhai o'r hen adeiladau o hyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
  3. Melville Richards, "Enwau Lleoedd", yn Atlas Môn (Llangefni, 1972).