Cors Ddyga
| Math | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ynys Môn |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,359.75 ha |
| Cyfesurynnau | 53.216°N 4.333°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
| Manylion | |
Cors fawr yng ngorllewin Ynys Môn yw Cors Ddyga (hefyd: Cors Malltraeth). Mae'r gors wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 1 Ionawr 1957 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei harwynebedd yn 1,359.75 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am reoli'r safle. Mae'r aderyn y bwn, y cwtiad aur (neu'r cornicyll aur) a'r gornchwiglen i'w cael yma yn ogystal a'r dyfrgi.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Dwy gors arwahân yw Cors Ddyga a Chors Malltraeth. Mae'r gyntaf yn lygriad o Cors Tygai, ar ôl y sant a roes ei enw i Landygái.
Mae Cors Ddyga yn ymestyn rhwng ochrau Pentre Berw a Llangaffo, ochr ddwyreiniol i'r Afon Fawr (aber yr Afon Cefni gynt). Mae Cors Malltraeth yn ymestyn o ochrau Trefdraeth, Bodorgan i'r gorllewin o bentref Malltraeth ac yn ymestyn bron hyd at dref Llangefni yng nghanol yr ynys.
Roedd rhyd Aber Malltraeth pan oedd y llanw i mewn yn beryglus iawn ac yn gwneud teithio yn anodd rhwng "Sir Fôn Fawr" a "Sir Fon Fach". Yr hen Afon Cefni oedd y ffin rhwng Cwmwd Rhosyr a Chwmwd Malltraeth sef rhaniad Cantrefi Môn.
Cafwyd deddf i gau'r môr a sychu'r ddwy gors: The Enclosure Act of Malltraeth Marsh and Cors Ddyga. Trawsffurfiodd hyn y dirwedd pan adeiladwyd Cob Malltraeth a dechreuodd yr Afon Cefni ymffurfio o'r newydd ynghanol y dyffryn. Sythwyd y Cefni ac adeiladwyd dwy ffos fawr o'r enw Afon Fain, un bob ochr i'r afon gyda'r diben o sychu'r ddwy gors.
Canlyniad hyn oedd troi'r rhan fwyaf o'r gors yn borfa. Bu cloddio am lo yma am gyfnod ond pan ddaeth y gwaith i ben, ffurfiwyd y llynnau a elwir heddiw'n "Llynnau Gwaith-glo".
Mae darn sylweddol o ran ddwyreiniol Cors Ddyga yn awr yn warchodfa adar sy'n perthyn i'r RSPB, elusen sydd wedi gwneud llawer o waith i adfer cynefin corsiog naturiol yma. Nid yw'r warchodfa ar agor i'r cyhoedd yn swyddogol.
Mae llwybrau cyhoeddus a ffordd gyhoeddus Lôn Gors a Lôn Morfa Mawr yn croesi'r gors, diolch i weledigaeth Donald Glyn Pritchard, ysgrifennydd Cymdeithas Gwarchod Pentre Berw gyda chefnogaeth Cyngor Cymuned Esceifiog, swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn a Menter Môn, yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos a Ieuan Wyn Jones AS a AC cafwyd arian o Ewrop i ail wynebu y ffyrdd sef Lôn Gwaith, Lôn Gors a Lôn Bach a chreu maes parcio cyhoeddus i gerddwyr (a'u cŵn) a beicwyr i fwynhau distawrwydd Cors Ddyga.
Prif ysgogiad y cynllun hwn oedd creu llwybrau gwastad diogel i bobl oedd wedi cael triniaeth calon a chymalau newydd. Mae'r maes parcio a'r llwybrau uchod yn cysylltu Lôn Las Cefni ac yn hynod o boblogaidd gan bobl yr ynys a'r tir mawr. Agorwyd y maes parcio cyhoeddus gan blant hynaf Ysgol Esgeifiog a threfnwyd picnic iddynt gan aelodau a chyfeillion y gymdeithas. Noddwyd y dathliad gan Bysiau Gwynfor a D G Pritchard (CGPB).
Math o safle
[golygu | golygu cod]Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 25 Rhagfyr 2013
