Llanddona

Oddi ar Wicipedia
Llanddona
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDona Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,726 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPentraeth, Llangoed, Cymuned Biwmares, Cwm Cadnant Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.296906°N 4.133044°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000013 Edit this on Wikidata
Cod OSSH5793679894 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Pentref a chymuned yn ne-ddwyrain Ynys Môn yw Llanddona ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif rhyw dair milltir i’r gogledd o dref Biwmares ar ffordd fechan sy’n troi tua’r gogledd o’r B5109 rhwng Biwmares a Llansadwrn (cyfeiriad grid SH575796). Mae ar ochr ddwyreiniol Traeth Coch. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Menai.

Tafarn Owain Glyndŵr, Llanddona

Mae’r eglwys wedi ei chysegru i Sant Dona, mab Selyf ap Cynan o deulu brenhinol Teyrnas Powys. Dywedir fod yr eglwys wreiddiol yma yn dyddio o tua 610. Ail-adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1873. Yn yr eglwys mae cloch yn dyddio o 1647 a chwpan cymun arian yn dyddio o 1769, ond gyda chaead o 1574.

Nodwedd amlycaf yr ardal yw’r mast radio ar fryn uwchben y pentref, sydd i’w weld am filltiroedd. Ychydig i’r gogledd o’r pentref mae bryngaer o’r enw Bwrdd Arthur, neu "Din Sylwy". Mae maen hir cynhanesyddol i’r gorllewin o’r pentref.

Ceir stori adnabyddus am Wrachod Llanddona. Yn ôl y chwedl daeth cwch heb hwyl na rhwyfau i’r lan yn Nhraeth Coch yn llawn o ddynion a merched. Daethant yn enwog am eu gallu i reibio, yn enwedig gwraig o’r enw Bella Fawr.

Olion hynafol[golygu | golygu cod]

Ceir clwstwr cytiau Mariandyrys gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.


Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanddona (pob oed) (691)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddona) (354)
  
52.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddona) (381)
  
55.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanddona) (124)
  
41.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.