Selyf ap Cynan

Oddi ar Wicipedia
Selyf ap Cynan
Ganwydc. 586 Edit this on Wikidata
Bu farw613, 616 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
TadCynan Garwyn Edit this on Wikidata
PlantManwgan ap Selyf, Dona Edit this on Wikidata

Roedd Selyf ap Cynan neu Selyf ap Cynan Garwyn (m. tua 615), yn dywysog o'r hen Bowys. Roedd yn fab i'r brenin Cynan Garwyn, gwrthrych un o'r cerddi cynharaf yn yr iaith Gymraeg, sef 'Trawsganu Cynan Garwyn,' gwaith y bardd Taliesin. Ei daid oedd Brochfael Ysgithrog, brenin Powys ganol y 6g. Cyfeirir at Selyf weithiau fel 'Selyf Sarffgadau'. Daeth ei fab, Manwgan ap Selyf, yn frenin Powys.

Yr adeg honno yr oedd ffiniau Powys yn ymestyn i'r dwyrain, dros Glawdd Offa heddiw, ac yn cynnwys rhannau sylweddol o'r Gororau. Cafodd Selyf ei anfon gan ei dad (mae modd darllen rhai ffynonellau i olygu fod Cynan yn farw a'i fab yn teyrnasu) i geisio amddiffyn Powys rhag yr Eingl-Sacsoniaid. Ymunodd Selyf â'i ryfelwyr â llu y Brythoniaid a syrthiodd ym Mrwydr Caer (615 neu 616) (ceir y cofnod yn yr Annales Cambriae) pan ymladdodd yn erbyn Æthelfrith o Northumbria. Dyma'r cysylltiad cyntaf rhwng brenin o Loegr â Chymry.[1] Mae'n bosibl fod Selyf yn arweinydd lluoedd y Brythoniaid yn y frwydr dyngedfennol honno, a dorrodd y cysylltiad rhwng teyrnasoedd Cymru a'r Hen Ogledd.

Cyfeirir at Arofan fel "bardd Selyf ap Cynan" yn Nhrioedd Ynys Prydain. Mewn triawd arall, mae'n un o 'Dri Aerfeddawg (arweinwyr rhyfel) Ynys Prydain', gyda Urien fab Cynfarch (Urien Rheged) ac Afaon fab Taliesin. Mewn amrywiad ar un o'r Trioedd a geir yn Llyfr Du Caerfyrddin, enwir march Selyf fel Du Hir Derwenydd, sy'n un o 'Dri Thom Edystr Ynys Prydain' (Tri Phynfarch...).

Ceir cyfeiriad ato yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy hefyd, fel un o farchogion Arthur.

Parhaodd bri Selyf hyd yr Oesoedd Canol. Cyfeiria'r bardd Cynddelw Brydydd Mawr at ryfelwyr Powys fel "cenawon Selyf."

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd, 1991)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Gwyddoniadur Cymreig; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008; tud 90.