Brochwel Ysgithrog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Brochfael Ysgithrog)
Brochwel Ysgithrog
Ganwyd502 Edit this on Wikidata
Bu farw560 Edit this on Wikidata
Man preswylPowys Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn, pendefig Edit this on Wikidata
Blodeuodd550 Edit this on Wikidata
Swyddtywysog Edit this on Wikidata
TadCyngen Glodrydd Edit this on Wikidata
MamTutglud ach Brychan Edit this on Wikidata
PriodArddun Penasgell Edit this on Wikidata
PlantCynan Garwyn, Tysilio, Aeddan ap Brochwel Yscythrog Edit this on Wikidata
Arfau Brochwel Ysgithrog.

Roedd Brochwel ap Cyngen (bu farw c. 560), a adnabyddir fel Brochwel Ysgrithrog yn frenin Teyrnas Powys. Mae'r llysenw anarferol Ysgithrog yn dod o "ysgythrddannedd". Ceir enghreifftiau o'r ffurf Brochfael ar ei enw yn ogystal.

Roedd Brochwel yn fab Cyngen ac yn dad i Cynan Garwyn a Sant Tysilio, sylfaenydd yr hen eglwys ym Meifod. Dywedir fod ei brif lys ym Mhengwern ar safle Amwythig heddiw. Mae'r hanesydd o Sais Beda yn cyfeirio at rhyw "Brochmail" a fu ym Mrwydr Caer tua 613, ond mae'n amlwg nad Brochwel oedd hwn, gan fod ei ŵyr, Selyf ap Cynan yn frenin Powys yr adeg honno. Efallai fod y cyfeiriadau ato dan yr enw "Brochfael" yn deillio o'i gymysgu a'r person y mae Beda'n cyfeirio ato.

Nid oes fawr o gofnodion am ddidwyddiadau yn ystod teyrnasiad Brochwel, ond yr oedd beirdd diweddarach yn aml yn cyfeirio at Powys fel "gwlad Brochwel". Mae Brochwel yn ymddangos yn stori'r santes Melangell, pan mae ei gŵn hela yn ymlid ysgyfarnog, sy'n ffoi at Melangell ac ymguddio dan ei gwisg; mae Brochwel yn rhoi Pennant Melangell yn rhodd iddi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
  • John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)