Neidio i'r cynnwys

Cynan Garwyn

Oddi ar Wicipedia
Cynan Garwyn
Ganwydc. 545 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farwc. 613 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
TadBrochwel Ysgithrog Edit this on Wikidata
PlantSelyf ap Cynan, Eiludd Powys, Cyndrwyn Fawr, Beuno Edit this on Wikidata
Mae hyn yn erthygl am y brenin o'r 6ed ganrif: am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Cynan.

Un o frenhinoedd cynnar teyrnas Powys oedd Cynan Garwyn (fl. ail hanner y 6g). Roedd yn fab i Frochwel Ysgithrog a thad i Selyf ap Cynan, a laddwyd ym Mrwydr Caer (tua 615).[1] Yr adeg honno yr oedd ffiniau Powys yn ymestyn i'r dwyrain, dros Glawdd Offa heddiw, ac yn cynnwys rhannau sylweddol o'r Gororau.

Canodd y bardd Taliesin awdl foliant i Gynan a elwir Trawsganu Cynan Garwyn. Os dilys yr awduraeth, dyma'r gerdd hynaf sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg. Yn y gerdd molir Cynan fel rhyfelwr dewr a ffyrnig yn ymosod ar deyrnasoedd Brythonaidd eraill, gan gynnwys Cernyw.[1]

Cyfeirir at gyrch arfaethedig ar Forgannwg gan Gynan ym Muchedd Cadog. Ataliodd y sant Cadog y brenin rhyfelgar. Gellid cynnig dyddiad o tua 577 i'r digwyddiad. Yn ddiweddarach ceir cyfeiriadau at Gynan yn Nhrioedd Ynys Prydain. Yn ôl Buchedd Beuno rhoddodd Cynan anrhegion hael i sant Beuno.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960). Tud. xvii-xxiii.