Cadog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delw o Sant Cadog, yn Belz yn Llydaw.

Roedd Sant Cadog, weithiau Catwg (neu Catwg Ddoeth yn ffugiadau Iolo Morgannwg), yn un o'r pwysicaf o'r seintiau Cymreig yn y 6ed ganrif. Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd clas Llancarfan ym Mro Morgannwg.

Bywgraffiad[golygu]

Ysgrifennwyd Buchedd Cadog tua 1100 gan Lifris o Lancarfan in circa 1100, c ysgrifennwyd un arall o waith Caradog o Lancarfan rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Nid oes llawer o werth hanesyddol iddynt, ond dywedir fod Cadog yn fab i Gwynllyw, brenin Gwynllwg yn ne Cymru, brawd Sant Pedrog. Dywedir i Gwnllyw gipio buwch yn perthyn i'r mynach Gwyddelig Sant Tathyw, a phan ddaeth Tathyw ato i hawlio ei fuwch yn ôl, penderfynodd Gwynllyw roi ei fab iddo i'w addysgu.

Bu Cadog yn efengylu yng Nghymru a Llydaw, ac mae nifer sylweddol o eglwysi a chysylltiad ag ef yn y ddwy wlad, er enhraifft Llangadog yn Sir Gaerfyrddin, Belz, Locoal-Mendon a Gouesnac'h yn Llydaw. Dywedir iddo hefyd adeiladu mynachlog yn yr Alban islaw "Mynydd Bannauc" (yn ôl y farn gyffredinol, i'r de-orllewin o Stirling). Yn ôl ei fuchedd aeth ar brererindod i Rufain a Jerusalem, a daeth i wrthdrawiad a'r Brenin Arthur ac a Maelgwn Gwynedd. Dywedir iddo dreulio cyfnod yn byw fel meudwy gyda Gildas ar ynys ym mae Morbihan yn Llydaw.

Ffugiadau Iolo Morganwg[golygu]

Tadogodd yr hynafiaethydd a ffugiwr traddodiad enwog Iolo Morgannwg gyfres o drioedd diarebol a dywediadau ar Sant Cadog/Catwg dan yr enw "Trioedd Catwg Ddoeth".

Gŵyl mabsant[golygu]

Ei ddydd gŵyl yw 23 Ionawr. Gelwir arno i iachau byddardod.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • E.G. Bowen Saints, seaways and settlements in the Celtic lands (Gwasg Prifysgol Cymru, 1969)