Llandegfan
![]() | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ynys Môn, Cwm Cadnant ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.2391°N 4.1517°W ![]() |
Cod OS |
SH565735 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref yn ne-ddwyrain Ynys Môn yw Llandegfan ( ynganiad ). Saif ar ffordd gefn ychydig i'r gogledd-ddwyrain o dref Porthaethwy ac i'r gogledd o'r briffordd A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares. Mae yng nghymuned Cwm Cadnant.
Mae'r pentref mewn dwy ran; y pentref gwreiddiol yw'r hyn a elwir yn awr yn Hen Landegfan, o gwmpas yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Tegfan. Tyfodd y rhan arall, sydd gryn dipyn yn fwy, i'r de o'r hen bentref ac yn nes at yr A545. Codwyd ystad newydd yn y pentref o'r enw Gwêl y Llan yn 2003 - sef y datblygiad mwyaf diweddar yn y pentref. Mae yna siop fach ar gornel Lôn Ganol a hefyd mae yna Ysgol Gynradd fawr yno, hefo dros 120 o blant yno. Poblogaeth y pentref (2010) yw 927.[1]
Mae yna Neuadd y Plwyf yn y pentref, lle mae cyfarfodydd, digwyddiadau elusen, a hefyd y clwb ieuenctid yn cael ei gynnal. Mae yna barc chwarae tu allan i'r neuadd.
Mae yna dafarn o'r enw Pen y Cefn, sydd yn sefyll wrth ymyl hen felin a chafodd ei ddefnyddio llawer o flynyddoedd yn ôl.
Gweithio yn ninas Bangor y mae'r mwyafrif o'r trigolion.
Pobl o Landegfan[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu Aled Jones yn byw yma pan oedd ei fam yn athrawes yn yr ysgol gynradd.
Eisteddfod[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynhaliwyd Eisteddfod Môn 2008 yn Llandegfan.
Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae yna dim pêl-droed yn y pentref, CPD Llandegfan sydd yn chwarae ar gae Lôn Tŷ Newydd. Mae'r clwb wedi cael trafferthion ariannol yn y gorffenol, ond rwan erbyn 2018 mae'r tim wedi ail-sefydlu ac maen nhw yn chwarae yng Nghynghrair Ynys Môn.
Mae'r Ysgol Gynradd hefo cyfleusterau chwaraeon cymharol well na lot o ysgolion o'i gwmpas. Mae gan yr ysgol dimau pêl-droed, rygbi 'tag', pêl-rwyd, hoci, a nofio.
Mae'r tafarn yn cynnal clybiau dartiau a hefyd snwcer/pŵl.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Cymraeg) GENUKI. Gwefan swyddogol. GENUKI. Adalwyd ar 06 Ebrill 2012.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Niwbwrch · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele